Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 28 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: ceisiadau am leoedd mewn ysgolion uwchradd yn agor; twyllwr rheibus yn dwyn arbedion bywyd menyw mewn sgâm rheoli plâu cymhleth; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a ‘Rysáit am Oes', darparu'r cynhwysion ar gyfer llwyddiant.

 

Ceisiadau Am Leoedd Mewn Ysgolion Uwchradd Yn Agor

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022 yn agor heddiw (dydd Llun 27, Medi) ac anogir teuluoedd i ‘roi pum' dewis ysgol i ni, er mwyn cynyddu eu siawns o gael lle mewn ysgol o'u dewis.

Mae nodi pum ysgol yn y ffurflen gais gyntaf yn un o 7 awgrym gan Dîm Derbyn Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae cyngor ac arweiniad syml gam wrth gam ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 awgrym gan gynnwys sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydyn ni'n gwybod y gall gwneud cais am le mewn ysgol fod yn amser pryderus i lawer o deuluoedd ac felly rydyn ni eisiau gwneud y broses mor syml a didrafferth ag y gallwn ni, gan helpu teuluoedd i ddeall sut mae'r broses yn gweithio a sut i gael y cyfle gorau i gael ysgol y maen nhw ei heisiau.

"Mae gan Gaerdydd lawer o ysgolion gwych, felly gall lleoedd lenwi'n gyflym. Drwy roi pum dewis ysgol i ni yn y ffurflen gais gyntaf, gall teuluoedd gael y cyfle gorau i sicrhau un o'u hysgolion dewisol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27613.html

 

Twyllwr rheibus yn dwyn arbedion bywyd menyw mewn sgâm rheoli plâu cymhleth

Bydd twyllwr rheibus yn y carchar am 12 mis ychwanegol am godi mwy nag £20,000 ar ddau ddioddefwr oedrannus ac agored i niwed, mewn sgâm rheoli plâu cymhleth a fyddai fel arfer yn costio £48 i'w gywiro.

Dedfrydwyd Richard McCarthy, 28, o Laneirwg, Caerdydd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, 24 Medi, yn dilyn ple euog i ddwy drosedd o dwyll mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Medi 2020.

Mae McCarthy ar remand ar hyn o bryd ac yn cwblhau dedfryd o bedair blynedd a hanner am fyrgleriaeth, ond mae ei gyfnod yn y carchar wedi'i estyn am flwyddyn am y troseddau newydd.

Clywodd y llys fod 'dwy fenyw oedrannus ac agored i niwed' wedi'u targedu yn y twyll, i drwsio pla llygod mawr honedig a ddyfeisiwyd yn llwyr gan McCarthy.

Targedodd y twyllwr y dioddefwr cyntaf, menyw 71 oed sy'n byw ar ei phen ei hun, ym mis Ionawr 2019 drwy guro ar ei drws yn esgus bod yn rhywun o'r enw 'Richard', gan gynnig trwsio teils to yn ei heiddo. Roedd hyn yn ddechrau i dwyll 8 diwrnod - lle cafodd cynilion bywyd o £11,400 y dioddefwr eu dwyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27618.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (17 Medi - 23 Medi)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

27 Medi 2021, 09:00

 

Achosion: 2,084

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 568.0 (Cymru: 650.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 14,230

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,878.4

Cyfran bositif: 14.6% (Cymru: 15.4% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Medi

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  719,954 (Dos 1: 371,077 Dos 2:  348,877)

 

  • 80 a throsodd: 20,551 / 94.6% (Dos 1) 20,321 / 93.5% (Dos 2)
  • 75-79: 15,050 / 96.3% (Dos 1) 14,864 / 95.1% (Dos 2)
  • 70-74: 21,441 / 95.7% (Dos 1) 21,308 / 95.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,957 / 94.2% (Dos 1) 21,685 / 93% (Dos 2)
  • 60-64: 26,024 / 92.3% (Dos 1) 25,680 / 91.1% (Dos 2)
  • 55-59: 29,369 / 90.3% (Dos 1) 28,816 / 88.6% (Dos 2)
  • 50-54: 29,026 / 87.9% (Dos 1) 28,319 / 85.8% (Dos 2)
  • 40-49: 55,312 / 81.6% (Dos 1) 53,119 / 78.4% (Dos 2)
  • 30-39: 60,408 / 75.3% (Dos 1) 56,026 / 69.9% (Dos 2)
  • 18-29: 79,464 / 76.4% (Dos 1) 69,681 / 67% (Dos 2)
  • 16-17: 3,863 / 70.9% (Dos 1) 280 / 5.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,074 / 98.1% (Dos 1) 2,074 / 96.8% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,343 / 93.8% (Dos 1) 11,068 / 91.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,243 / 90.1% (Dos 1) 44,495 / 86.6% (Dos 2)

 

Rysáit am Oes... Darparu'r Cynhwysion ar gyfer Llwyddiant

Mae'r cnwd diweddaraf o gogyddion Caerdydd wedi cynnal digwyddiad ddaeth â dŵr i'r dannedd, penllanw rhaglen newydd gan y Cyngor, 'Rysáit am Oes... Darparu'r Cynhwysion ar gyfer Llwyddiant'.

Crëwyd Rysáit am Oes gan ein Tîm Gwasanaeth Ieuenctid Ôl-16, mewn partneriaeth â Thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor, y Gwasanaeth i Mewn i Waith, Tîm Digidol y Gwasanaeth Ieuenctid a Chaffi Cymunedol Morgan's Table yn Llanrhymni.

Ym mis Ebrill, dechreuodd wyth o bobl ifanc Caerdydd raglen gynhwysfawr, 12 wythnos, a gynlluniwyd i roi blas iddynt o weithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo, gyda phinsiad o ddatblygiad personol wedi ei ychwanegu.

Mae'r prosiect wedi'i anelu at bobl ifanc 16 i 25 oed Caerdydd, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.  Mae'n cynnwys sesiynau theori rhyngweithiol, wedi eu cyflwyno gan ein Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 a Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a gweithdai ymarferol gan Morgan's Table.