27/09/21
Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion uwchradd ym mis Medi 2022 yn agor heddiw (dydd Llun 27, Medi) ac anogir teuluoedd i ‘roi pum' dewis ysgol i ni, er mwyn cynyddu eu siawns o gael lle mewn ysgol o'u dewis.
Mae nodi pum ysgol yn y ffurflen gais gyntaf yn un o 7 awgrym gan Dîm Derbyn Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.
Mae cyngor ac arweiniad syml gam wrth gam ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, sy'n helpu i esbonio'r 7 awgrym gan gynnwys sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael.
Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:
- Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
- Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau
- Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydyn ni'n gwybod y gall gwneud cais am le mewn ysgol fod yn amser pryderus i lawer o deuluoedd ac felly rydyn ni eisiau gwneud y broses mor syml a didrafferth ag y gallwn ni, gan helpu teuluoedd i ddeall sut mae'r broses yn gweithio a sut i gael y cyfle gorau i gael ysgol y maen nhw ei heisiau.
"Mae gan Gaerdydd lawer o ysgolion gwych, felly gall lleoedd lenwi'n gyflym. Drwy roi pum dewis ysgol i ni yn y ffurflen gais gyntaf, gall teuluoedd gael y cyfle gorau i sicrhau un o'u hysgolion dewisol."
Mae'r ymgyrch 7 awgrym ddiweddaraf y gwasanaeth Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef cyntaf y DU, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses mor syml a thryloyw â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."
"Os oes unrhyw deuluoedd yn ansicr am unrhyw agwedd ar y broses, gallant gael cymorth gan ein staff yn Hybiau'r Cyngor ledled y ddinas neu drwy ffonio C2C ar 029 20872088."
I weld canllaw'r 7 awgrym a'r animeiddiad, ewch yma.
Mae'r wybodaeth hefyd ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Rwseg, Somalïeg a Chymraeg wrth gwrs.
Ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth a chymorth yn ystod y broses ymgeisio, ewch i unrhyw un o Hybiau'r Cyngor lle bydd staff yn gallu helpu neu ffoniwch C2C ar 029 20872088.
Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2022 yn cau ar 22 Tachwedd 2021.
I wneud cais am le mewn ysgol ewch i https://www.caerdydd.gov.uk/DerbyniYsgolion