Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: dechrau'r gwelliannau i Argae Parc y Rhath; app cymorth i Mewn i Waith; WOW! Rhaglen cerdded i'r ysgol Caerdydd; Llwyddiant i Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Caerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dechrau'r gwelliannau i Argae Parc y Rhath
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith ar Argae Parc y Rhath, cyn i'r gwaith gwella ddechrau yn hydref 2021.
Mae Llyn Parc y Rhath, wrth galon Caerdydd, yn un o barciau mwyaf poblogaidd y ddinas. Er mai fel llyn mae'n cael ei hadnabod, mae Llyn Parc y Rhath mewn gwirionedd yn gronfa ddŵr a gafodd ei chreu drwy osod strwythur argae ar hyd y promenâd ger y goleudy a'i bwydo gan Nant Fawr.
Mae strwythur yr argae yn cynnwys gorlifan y gronfa ddŵr, sef y rhaeadr wrth ymyl y caffi. Mae'n Adeilad Rhestredig Gradd II o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r llyn ac mae'n ofynnol iddo ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd (o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975). Canfu'r archwiliad diwethaf na fyddai'r gorlifan yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau.
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghorwyr peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i nodi'r opsiynau gorau i sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau'r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall natur y gwaith ac mae digwyddiadau gwybodaeth i'r gymuned wedi'u trefnu fel bod trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.
Digwyddiadau Gwybodaeth Gymunedol
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd,"Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael stormydd amlach a mwy dwys yng Nghaerdydd, felly mae angen i'r argae allu ymdopi â'r posibilrwydd o dywydd mwy eithafol fel hyn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27583.html
Cwestiynau ac Atebion Argae Parc y Rhath:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27588.html
App Cymorth i Mewn i Waith
Mae app newydd i gefnogi pobl sy'n chwilio am waith a'r rhai sydd am newid gyrfa yng Nghaerdydd i gael gafael ar wybodaeth a chyngor amser real am wasanaethau cyflogadwyedd y Cyngor bellach ar gael i'w lawrlwytho.
Mae app symudol I Mewn i Waith Caerdydd yn darparu gwybodaeth am yr ystod eang o wasanaethau cymorth cyflogaeth a ddarperir gan Wasanaethau I Mewn i Waith y Cyngor gan gynnwys clybiau swyddi, prosiectau mentora un i un, cyrsiau Dysgu Oedolion, hyfforddiant, digwyddiad cyflogaeth, helpu i gael gafael ar gyllid a mwy, i gyd ar flaenau bysedd y defnyddiwr ar eu ffôn clyfar neu dabled.
Wedi'i ddatblygu ar gyfer Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith gan Wasanaethau Ymgynghori Tata (TCS), mae'r app ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar yApple Storeac ynGoogle Playac mae'n rhoi diweddariadau rheolaidd i geiswyr gwaith am gyrsiau hyfforddi newydd, digwyddiadau a gwybodaeth i'w helpu i fynd i rôl y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.
Drwy lawrlwytho'r app, gall defnyddwyr hefyd gofrestru ar gyfer cymorth I Mewn i Waith, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i bobl gael cymorth sydd ei angen arnynt i gael y swydd y maent ei heisiau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae gan ein gwasanaethau i Mewn i Waith hanes gwych o gefnogi pobl i gael gwaith mewn ystod o wahanol sectorau, gan helpu i'w harfogi â'r hyn sydd ei angen arnynt i ddychwelyd i'r gwaith, gan gefnogi eraill i uwchsgilio i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a chael swydd y maent wir ei heisiau, neu i hyfforddiant ac addysg.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27581.html
WOW! Rhaglen cerdded i'r ysgol Caerdydd
Mae nifer o blant ysgol Caerdydd yn teithio i'r ysgol mewn ffyrdd iachach a glanach fel rhan o raglen cerdded i'r ysgol y DU.
Mae WOW - yr her cerdded i'r ysgol gan Living Streets bellach wedi'i chyflwyno i 45 o ysgolion ar draws y brifddinas, sy'n golygu mai Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran cyflwyno'r cynllun ac mae'n un o'r dinasoedd sy'n perfformio orau yn y DU.
Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Living Streets Cymru ac i gefnogi Rhaglen Teithio Llesol Ysgolion Caerdydd, mae'r fenter a arweinir gan ddisgyblion yn caniatáu i blant a phobl ifanc gofnodi eu teithiau dyddiol i'r ysgol ar y Traciwr Teithio WOW rhyngweithiol. Mae'r disgyblion hynny sy'n teithio'n llesol (cerdded, beicio neu sgwtio) am nifer penodol o ddyddiau bob wythnos yn derbyn bathodynnau y gallant eu casglu dros y flwyddyn.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, wedi cefnogi'r cynllun, gan ddweud: "Yn fy Maniffesto ar gyfer y Dyfodol, rwyf wedi gofyn i lywodraeth nesaf Cymru greu cymdogaethau lle gall pobl gael mynediad i'r rhan fwyaf o'u hanghenion dyddiol, gan gynnwys yr ysgol, o fewn taith gerdded ddiogel, 20 munud i'w cartrefi.
"Trwy gerdded neu feicio i'r ysgol, rydym yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd, gan wneud teithiau'n fwy diogel i bawb. "Mae WOW yn ffordd hwyliog a hawdd o annog mwy o blant a'u teuluoedd i gerdded i'r ysgol, gan wella eu hiechyd a'u lles."
Eleni, mae bathodynnau WOW yn dilyn y thema 'Cerdded i'r Byd'. Mae holl fathodynnau WOW wedi'u dylunio gan ddisgyblion mewn cystadleuaeth dylunio bathodynnau flynyddol ac fe'u gwneir yn y DU o ddeunydd plastig wedi'i ail-bwrpasu, gan gynnwys hen silffoedd oergell a photiau iogwrt. Bydd pob ysgol yn cael tlws i ddathlu'r dosbarth gyda'r sgôr teithio llesol uchaf bob mis.
Gall plant sy'n byw ymhellach i ffwrdd o'r ysgol barhau i ennill bathodynnau os yw teuluoedd yn defnyddio Parcio a Brasgamu neu'n mynd ar y bws 10 munud i ffwrdd o'r ysgol ac yn cerdded gweddill y ffordd.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio a Thrafnidiaeth: "Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas gyda'r nod o leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â phroblemau parhaus newid yn yr hinsawdd."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27572.html
Llwyddiant i Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Caerdydd
Yr haf hwn, manteisiodd dros 1200 o blant a phobl ifanc ar Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) Caerdydd, sy'n golygu bod y niferoedd uchaf erioed wedi gallu mwynhau'r rhaglen gyffrous o ddarpariaeth chwaraeon ac addysgol, ochr yn ochr â phrydau maethlon iach.
Prif Ffigurau:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwyf wrth fy modd bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni ac roeddwn yn ffodus o gael mynychu rhai o'r sesiynau a phrofi'n uniongyrchol y ffyrdd y mae'r cynllun yn elwa ein cymunedau."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27565.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (13 Medi - 19 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
23 Medi 2021, 09:00
Achosion: 1,710
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 466.1 (Cymru: 582.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 12,141
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 3,309.0
Cyfran bositif: 14.1% (Cymru: 15.3% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 15 Medi
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 715,827 (Dos 1: 370,819 Dos 2: 345,008)