Back
Cytundeb ar ail-osod cladin i Fflatiau Lydstep


24/09/21 

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau ei ymrwymiad i gyflawni gwaith ail-osod gorchudd cladin i dri o flociau fflatiau uchel yr awdurdod, y tynnwyd eu cladin gwreiddiol yn dilyn trychineb Grenfell.

 

Mae Fflatiau Lydstep Ystum Taf yn gartref i 126 o aelwydydd, ac yn cynnwys tri o bum bloc fflat uchel y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu ail-osod gorchudd cladin arnynt.

 

Cyfarfu Cabinet Cyngor Caerdydd ddoe, Dydd Iau, 23 Medi a chytunodd ar ffordd ymlaen i'r gwaith gael ei wneud.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae gennym ddyletswydd gofal i'n tenantiaid sy'n byw yn fflatiau Lydstep ac ar ôl cael gwared ar y cladin, mae'r fflatiau wedi mynd yn llawer oerach gyda rhai tenantiaid yn cael problemau gyda mwy o gyddwysiad a thyfiant llwydni.

 

"Dyw gwneud dim ddim yn opsiwn.  Rydym wedi edrych ar ddymchwel ac ailadeiladu ond byddai cost hyn tua £29m a byddai angen ailgartrefu'r holl denantiaid dros dro gan roi pwysau ychwanegol ar y cyflenwad tai yn ystod cyfnod eithriadol o heriol."

 

Yn ei gyfarfod, clywodd y Cabinet sut mae costau'r cynllun cladin newydd wedi dyblu i £15m ers y dyfyniadau cychwynnol yn gynnar yn 2020 cyn i'r pandemig daro, gyda Brexit a phwysau chwyddiant yn y diwydiant adeiladu yn cael eu nodi fel rhesymau allweddol dros y cynnydd.

 

Mae effaith y fframwaith profi a rheoleiddio helaeth ar gyfer datrysiadau cladin sydd wedi bod yn esblygu ledled y wlad yn dilyn trasiedi Grenfell hefyd wedi cyfrannu at oedi yn y cynllun a chynnydd mewn costau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd mewn costau yn deillio o'r pwysau chwyddiant sylweddol iawn sydd wedi'u profi dros gyfnod y prosiect. Mae'r pwysau hyn yn deillio o nifer o ffactorau.  Adroddir bod costau deunyddiau wedi bod yn cynyddu ar gyfradd o 5% i 10% y mis ar gyfer rhai cynhyrchion a bod cynnydd o 20% mewn costau llafur hefyd wedi'i brofi.

 

"Mae oedi'r cynllun yn golygu gormod o risgiau hefyd.  Gallai prisiau godi ymhellach ac mae trigolion eisoes wedi dioddef oedi maith."

 

Cytunodd y Cabinet ar y gwaith arfaethedig ar gyfer y tri bloc yn fflatiau Lydstep, yn ei gyfarfod ym mis Medi.

 

Aseswyd dyfynbrisiau newydd ar gyfer y gwaith gan dîm rheoli costau'r ymgynghorydd annibynnol Mott Macdonald, sydd wedi dod i'r casgliad bod y tendr yn adlewyrchiad cywir o gost bresennol y farchnad.  Ategir hyn ymhellach gan dri neu fwy o ddyfynbrisiau marchnad ar gyfer y gwaith.

 

Bydd cynigion ar gyfer ailosod deunydd cladin yn Loudoun a Nelson House yn cael eu hystyried ar wahân yn ddiweddarach.