24.09.2021
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith ar Argae Parc y Rhath, cyn i'r gwaith gwella ddechrau yn hydref 2021.
Mae Llyn Parc y Rhath, wrth galon Caerdydd, yn un o barciau mwyaf poblogaidd y ddinas. Er mai fel llyn mae'n cael ei hadnabod, mae Llyn Parc y Rhath mewn gwirionedd yn gronfa ddŵr a gafodd ei chreu drwy osod strwythur argae ar hyd y promenâd ger y goleudy a'i bwydo gan Nant Fawr.
Mae strwythur yr argae yn cynnwys gorlifan y gronfa ddŵr, sef y rhaeadr wrth ymyl y caffi. Mae'n Adeilad Rhestredig Gradd II o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r llyn ac mae'n ofynnol iddo ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd (o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975). Canfu'r archwiliad diwethaf na fyddai'r gorlifan yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol a allai, yn ddamcaniaethol, ddigwydd, ac felly mae angen gwelliannau.
Mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghorwyr peirianneg blaenllaw, i gynnal astudiaeth i nodi'r opsiynau gorau i sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau'r gymuned leol i sicrhau eu bod yn deall natur y gwaith ac mae digwyddiadau gwybodaeth i'r gymuned wedi'u trefnu fel bod trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect.
Digwyddiadau Gwybodaeth Gymunedol
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd,"Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael stormydd amlach a mwy dwys yng Nghaerdydd, felly mae angen i'r argae allu ymdopi â'r posibilrwydd o dywydd mwy eithafol fel hyn.
"Mae Parc y Rhath yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd, ac mae rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd lawn wedi'i chynllunio cyn cychwyn ar y gwaith, fel bod trigolion a busnesau lleol a defnyddwyr y parc yn cael y wybodaeth lawn.
"Bydd yr astudiaeth fanwl a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni, a'r gwaith gwella a fydd yn dilyn, yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol fel y gellir parhau i fwynhau'r parc yn ddiogel wrth i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg."
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y prosiect neu os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd amdano, cysylltwch â thîm y prosiect.
Ffoniwch: 02920 130061
E-bostiwch:roathparkdam@grasshopper-comms.co.uk