Back
WOW! Rhaglen cerdded i'r ysgol Caerdydd wedi'i chyflwyno i nifer o ysgolion, gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r

23/9/2021

Mae nifer o blant ysgol Caerdydd yn teithio i'r ysgol mewn ffyrdd iachach a glanach fel rhan o raglen cerdded i'r ysgol y DU.

Mae WOW - yr her cerdded i'r ysgol gan Living Streets bellach wedi'i chyflwyno i 45 o ysgolion ar draws y brifddinas, sy'n golygu mai Caerdydd yw'r Awdurdod Lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran cyflwyno'r cynllun ac mae'n un o'r dinasoedd sy'n perfformio orau yn y DU.

Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Living Streets Cymru ac i gefnogi Rhaglen Teithio Llesol Ysgolion Caerdydd, mae'r fenter a arweinir gan ddisgyblion yn caniatáu i blant a phobl ifanc gofnodi eu teithiau dyddiol i'r ysgol ar y Traciwr Teithio WOW rhyngweithiol.  Mae'r disgyblion hynny sy'nteithio'n llesol (cerdded, beicio neu sgwtio) am nifer penodol o ddyddiau bobwythnosyn derbyn bathodynnau y gallant eu casglu dros y flwyddyn.

 

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, wedi cefnogi'r cynllun, gan ddweud:"Yn fy Maniffesto ar gyfer y Dyfodol, rwyf wedi gofyn i lywodraeth nesaf Cymru greu cymdogaethau lle gall pobl gael mynediad i'r rhan fwyaf o'u hanghenion dyddiol, gan gynnwys yr ysgol, o fewn taith gerdded ddiogel, 20 munud i'w cartrefi.

"Trwy gerdded neu feicio i'r ysgol, rydym yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd, gan wneud teithiau'n fwy diogel i bawb."Mae WOW yn ffordd hwyliog a hawdd o annogmwy o blant a'u teuluoedd i gerdded i'r ysgol, gan wella eu hiechyd a'u lles."

Eleni, mae bathodynnau WOW yn dilyn y thema 'Cerdded i'r Byd'. Mae holl fathodynnau WOW wedi'u dylunio gan ddisgyblion mewn cystadleuaeth dylunio bathodynnau flynyddol ac fe'u gwneir yn y DU o ddeunydd plastig wedi'i ail-bwrpasu, gan gynnwys hen silffoedd oergell a photiau iogwrt. Bydd pob ysgol yn cael tlws i ddathlu'r dosbarth gyda'r sgôr teithio llesol uchaf bob mis. 

Gall plant sy'n byw ymhellach i ffwrdd o'r ysgol barhau i ennill bathodynnau os yw teuluoedd yn defnyddio Parcio a Brasgamu neu'n mynd ar y bws 10 munud i ffwrdd o'r ysgol ac yn cerdded gweddill y ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio a Thrafnidiaeth: "Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas gyda'r nod o leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â phroblemau parhaus newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r daith i'r ysgol yn y bore ac adref yn y prynhawn yn rhoi pwysau mawr ar ein rhwydwaith ffyrdd gan ychwanegu at dagfeydd yn ystod oriau brig ac mae nifer y plant sy'n cerdded i'r ysgol wedi gostwng.

"Bydd Traciwr Teithio WOW yn rhoi cymhelliad i blant ac yn helpu i hyrwyddo'r manteision hirdymor sy'n gysylltiedig â theithio llesol, gan gefnogi ein rhaglen Teithio Llesol i Ysgolion."

Gall cerdded i'r ysgol helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd a chynyddu ymwybyddiaeth plant o'r ffyrdd yn ogystal â gwella iechyd meddwl a lles. Mewn ardaloedd lle mae WOW eisoes wedi'i sefydlu, mae cyfraddau cerdded wedi cynyddu 23%. Mae'r cynllun hefyd wedi helpu i leihau tagfeydd a llygredd gydag ysgolion WOW yn gweld gostyngiad o 30% ar gyfartaledd mewn teithiau car i'r ysgol.

Meddai Rhiannon Hardiman, Rheolwr Cymru, Living Streets Cymru:"Mae mwy o blant yn cerdded i'r ysgol yn golygu llai o geir yng nghyffiniau gatiau'r ysgol, gan wneud y lleoedd hyn yn fwy diogel a glân. Mae cerdded hefyd yn dda i'n hiechyd corfforol a'n lles meddyliol, gan helpu plant i fod yn fwy actif a gwella lefelau canolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth.  

"WOW - mae ein her cerdded i'r ysgol wedi cynyddu cyfraddau cerdded i'r ysgol mewn dros 2,000 o ysgolion ledled y DU. Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd i helpu mwy o deuluoedd yn y brifddinas i fwynhau manteision cerdded i'r ysgol."

Mae Ysgol Gynradd Albany wedi ymrwymo i'r cynllun, a dywedodd y pennaeth William Howlett: "Rydym wrth ein boddau yn Ysgol Gynradd Albany o fod yn gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo teithio llesol yn ein cymuned a lansio traciwr teithio WOW.

"Dechreuodd disgyblion Senedd Albany weithio ar ein cynllun teithio llesol gyda'r Tîm Teithio Llesol i Ysgolion y gwanwyn diwethaf, ynghyd â Living Streets, ac rydym yn falch iawn o fod yn symud ymlaen gydag ef eleni." 

Mae fideo wedi'i wneud fel rhan o lansiad rhithwir ar gyfer WOW. Gallwch wylio'r fideo yma:

https://youtu.be/ZBXueXM3gs4

Mae'r traciwr WOW ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen Teithio Llesol i Ysgolion Cyngor Caerdydd, ewch iYsgolion - Keeping Cardiff MovingI gael rhagor o wybodaeth am WOW, ewch iwww.livingstreets.org.uk/walktoschool