Back
Lansio ymgyrch i gynyddu'n sylweddol nifer ac amrywiaeth y gofalwyr maeth yng Nghaerdydd

20/09/21

Mae 'Maethu Cymru', y rhwydwaith cenedlaethol newydd o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled y wlad, yn lansio ymgyrch heddiw sydd â'r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

TextDescription automatically generated with low confidence 

Ledled Cymru, mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yng ngofal ei Awdurdod Lleol. Felly, y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hysbysebu ddwyieithog newydd, ar ran Caerdydd a'r 21 tîm maethu awdurdod lleol nid er elw arall ym 'Maethu Cymru', yn cynyddu ar niferoedd y rhieni maeth sydd eu hangen er mwyn helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan fydd hynny'n iawn iddynt.  

Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr a golygu'r byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hymdeimlad o hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: ‘Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnynt. I gredu ynddynt. Plant sydd angen rhywun ar eu hochr nhw, rhywun i'w caru nhw. Mae'n benderfyniad i weithio gyda phobl sy'n rhannu'r amcanion hynny, pobl fel tîm maethu eich Awdurdod Lleol yma yng Nghaerdydd.

Mae dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn diwallu'r angen gan blant am ofal a chymorth, ac wrth lenwi'r bylchau wrth i ofalwyr ymddeol neu er mwyn cynnig cartref parhaol i blant. 

Wrth lansio Maethu Cymru ym mis Gorffennaf, dwedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mi wn o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werthfawr y gall maethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal ac yn galluogi timau recriwtio a gofal maeth Awdurdodau Lleol ledled Cymru i feddwl am y darlun mwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol. 

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, rhoi gwell canlyniadau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac, yn bwysig, dileu yr elfen o elw sy'n gysylltiedig â phlant sy'n derbyn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o'r gwaith o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn galluogi plant i aros fwy yn eu cymuned a bodloni anghenion esblygol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu nhw." 

Tra bod pob plentyn yn wahanol, mae'r gofalwr maeth sydd ei angen arno hefyd yn wahanol. Nid oes y fath beth â theulu maeth 'nodweddiadol'. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu'n rhentu, p'un a yw rhywun yn briod neu'n sengl. Beth bynnag fo'u rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i fod yn gefn iddynt. 

"Rydym yn gobeithio croesawu llawer mwy o bobl i faethu gyda Maethu Cymru dros y misoedd nesaf," ychwanegodd y Cynghorydd Hinchey.

"Mae unrhyw un sy'n maethu gyda'u tîm Maethu Cymru Awdurdod Lleol yn gwneud hynny'n ddiogel gan wybod, i ba le bynnag y bydd eu dyfodol maethu yn mynd â nhw, y byddwn ni wrth law bob cam o'r ffordd gyda'r holl arbenigedd, cyngor a hyfforddiant ymroddedig sydd eu hangen arnynt i'w cefnogi ar eu taith faethu. 

"Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw." 

Bydd yr ymgyrch newydd gan Maethu Cymru ar deledu, radio, Spotify a llwyfannau digidol.

I gael gwybod mwy am faethu gyda'r Awdurdod Lleol yng Nghaerdydd, ewch i  https://caerdydd.maethucymru.llyw.cymru/