Back
Y CYHOEDD YN DWEUD EU DWEUD AM DDYFODOL YSGOL UWCHRADD WILLOWS

 



 17/9/2021

 

Mae mwy na 200 o aelodau o'r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar gynigion ar gyfer adeilad newydd Ysgol Uwchradd Willows yn ystod ymgysylltiad cyhoeddus chwe wythnos a oedd yn gofyn am farn rhieni, disgyblion, rhanddeiliaid a'r gymuned leol.

Bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad i fynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 23 Medi a bydd yn dylanwadu ar adeilad newydd yr ysgol, ei chyfleusterau, ei chwricwlwm a sut y gallai'r ysgol a'r gymuned leol weithio er budd ei gilydd. 

Roedd y rhan fwyaf o'r safbwyntiau yn cefnogi'r cynlluniau, gydag adborth cadarnhaol ar gynigion ar gyfer cyfleusterau, cymorth ar gyfer dyheadau disgyblion drwy weithio mewn partneriaeth a sut y bydd buddsoddi'n sicrhau gwell addysg ac amwynderau cymunedol i gymunedau Adamsdown a Sblot.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae cartref newydd i Ysgol Uwchradd Willowsyn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol, gan ddarparu cyfleusterau addysgol llawer gwell mewn ysgol newydd sbon yn ogystal ag amwynderau rhagorol sy'n hygyrch i'r gymuned gyfan.

"Bydd barn pobl leol yn chwarae rhan annatod yn y cynllun ac mae'n addawol bod cynifer o ymatebion a gafwyd wedi bod i gefnogi datblygiad newydd yr ysgol.

"Gofynnodd yr ymgysylltu â'r cyhoedd am farn ar yr hyn y dylid ei ddysgu yn yr ysgol a sut y dylid ei gyflwyno. Roedd yr ymatebion yn cefnogi ffocws ar gydweithio ag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant, gan alluogi disgyblion i elwa ar gwricwlwm cyfoethog sy'n rhoi cyfleoedd dysgu 'byd go iawn', gan eu hysbrydoli a helpu i ddatblygu eu sgiliau i fod yn ddysgwyr gwydn, arloesol a datrys problemau.

"Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llu o fanteision cymunedol sydd ar gael gan gynnwys mynediad i'r radd flaenaf, cyfleusterau modern, TGCh ac integreiddio â phartneriaid a busnesau'r ddinas."

Cododd yr ymgysylltu rai cwestiynau ynghylch lleoliad adeilad newydd yr ysgol a thraffig a diogelwch ar y ffyrdd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Rydym yn cydnabod bod rhai pryderon fel lleoliad yr ysgol newydd. Ar ôl ystyried sawl safle, gwelwyd bod y lleoliad arfaethedig yn hygyrch i boblogaeth y dalgylch gydag amrywiaeth o lwybrau trafnidiaeth gweithredol eisoes ar waith. Byddai cyfle i gyflawni ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol a llwybrau cerdded a beicio hygyrch i bob ysgol, drwy weithredu llwybrau newydd ar gyfer beicio a gwell cyfleusterau i gerddwyr yn yr ardal.

"Byddai'r safle newydd hefyd yn cynnig manteision sylweddol i'r ysgol a'r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â busnesau a sefydliadau lleol yr ardal a all helpui greu cyfleoedd heriol, cefnogol ac ysgogol i hyrwyddo dyhead a chyflawniad."

Wedi'i gyflwyno o dan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 21ain Ganrif, Band B Rhaglen Buddsoddi mewn Ysgolion ac Addysg, mae'r adroddiadau'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynigion cynnydd a fyddai'n cynnwys;

  • Adleoli ac ailadeiladu'r ysgol ar dri pharsel o dir ym Marchnad Sblot, Portmanmoor Road a chaeau 3G yn yr hen ganolfan tenis, gan ddarparu digon o le i'r ysgol newydd heb dynnu unrhyw le agored presennol.
  • Rhoi mynediad i ddisgyblion i amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i gefnogi a gwella addysgu a dysgu.
  • Ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned gyda chyfleusterau ar gael i'w defnyddio gan y gymuned gyfan y tu allan i oriau ysgol craidd.
  • Gwell cyfleusterau i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Ffordd Lewis
  • Lle ar gyfer 900 o leoedd i ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir
  • Disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Roedd barn plant a phobl ifanc yn adlewyrchu'r angen i feithrin a chefnogi eu huchelgeisiau yn y dyfodol. Byddant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol a byddant yn cefnogi uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant, lle mae barn plant a phobl ifanc wrth wraidd yr holl benderfyniadau."

Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn i'r Cabinet nodi newid y mecanwaith ariannu.  Ar hyn o bryd mae'r Ysgol Uwchradd Willows newydd yn rhan o raglen ariannu Llywodraeth Cymru model buddsoddi cydfuddiannol ond bydd yn symud yn ôl i raglen a ariennir gan gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B, yn bennaf i ddarparu hyblygrwydd ar gyfer adeiladu'r ysgol yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr ymgysylltu â'r cyhoedd o 14 Mehefin 2021.