Back
Trefniadau Cau ar y gweill: Morglawdd Bae Caerdydd


13.09.2021

 

 

Oherwydd digwyddiadau â thocynnau a gynhelir ar Bentir Alexandra, bydd safle'r Morglawdd ar gau i bobl heb docynnau o gylchfan Porth Teigr i'r rhan o'r Morglawdd sydd agosaf at Benarth ar:

 

  • Dydd Iau 16 Medio 4.30pm tan hanner nos
  • Dydd Gwener 17 Medio hanner dydd tan 12.30am
  • Dydd Sadwrn 18 Medio hanner dydd tan 12.30am
  • Dydd Sul 19 Medio hanner dydd tan hanner nos

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury:  "Bydd y Morglawdd ar agor i bawb tan 4.30pm ddydd Iau a than hanner dydd ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul.

 

"O'r adegau hyn tan hanner nos ar ddydd Iau a dydd Sul a than 12:30am ar ôl y Gwyliau Titan ar y penwythnos, i ddeiliaid tocynnau yn unig y bydd y safle ar agor.

 

"Os ydych yn teithio o Benarth, gwnewch yn siŵr eich bod arOchr Caerdydd y Morglawdd cyn i'r safle gau. Bydd yr holl fynediad i'r gigs ar ochr Caerdydd y Morglawdd lle bydd diogelwch, gwiriadau tocynnau meddal a gwiriadau COVID yn cael eu sefydlugan drefnwyr y digwyddiad.

 

"Os oes gennych chi docyn, bydd y fynedfa a'r allanfa ar gyfer y digwyddiadau ger cylchfan Porth Teigr, pen y Bae Rhodfa'r Morglawdd.

 

"Bydd hyd at 11,000 o ddeiliaid tocynnau yn y digwyddiadau hyn bob dydd felly byddai'n anodd, os nad yn amhosibl, i gymudwyr neu feicwyr groesi'r Morglawdd yn ddiogel.

 

"Mae gweithredoedd proffil-uchel fel hyn yn denu llawer o ddiddordeb a phetai'r Morglawdd yn aros ar agor, gallai torfeydd mawr gasglu. Bydd cau'r safle yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thorfeydd mawr yn casglu yn yr ardal,gan gynnwys rhwystro mynediad i bobl sy'n cymudo neu'n cerdded, atal cerbydau brys rhag cael mynediad i'r ardal os oes angen, risg o orlenwi a thagfeydd wrth fynd i mewn ac wrth ymadael â'r digwyddiadau, a'r potensial i bobl heb docynnau fynd i mewn i'r digwyddiad, a allai arwain at sefyllfa fel a welwyd ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Wembley yn ddiweddar.

 

"Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiadau gael eu cynnal ym Mhentir Alexandra ers cyn y pandemig acrydym am i bawb gael dychwelyd i ddigwyddiadau awyr agored yn y lleoliad hwn yn ddiogel a mwynhau yr un pryd."

 

Bydd arwyddion am y cau yn yr ardal yn gynnar yr wythnos nesaf, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Awdurdod yr Harbwr https://www.cardiffharbour.com/cy/.