Back
Gorchymyn i dipiwr anghyfreithlon dalu dros £300 yn Llys Ynadon Caerdydd

13/08/21


Cafodd Sherifa Actie, 27 oed o Beauchamp Street, Caerdydd, Orchymyn i dalu £300 a Rhyddhad Amodol am 12 mis yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf (Medi 7) am dipio nifer fawr o fagiau du yn anghyfreithlon mewn lôn gefn yn agos i'w heiddo.

 

Ar ddydd Mawrth 5 Mai, 2020, derbyniodd y cyngor gŵyn am dipio anghyfreithlon yn lôn gefn Beauchamp Street a Plantagenet Street. Pan gyrhaeddodd y swyddog gorfodi'r safle, canfuwyd nifer fawr o fagiau du wedi'u tipio'n anghyfreithlon - yn llawn pridd uchaf - gyda thystiolaeth yn cysylltu'r gwastraff yn ôl ag eiddo Miss Actie.

 

Pan gyrhaeddodd y swyddog yr eiddo, roedd yn amlwg bod Miss Actie yn cael patio wedi'i adeiladu yn ei gardd gefn. Derbyniodd Miss Actie fod y pridd wedi dod o'i gardd ac esboniodd wrth y swyddog fod trefniadau'n cael eu gwneud i'w symud. Ni chafodd y gwastraff a oedd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ei symud oddi yno erbyn 26 Mai 2020, felly rhoddwyd camau gorfodi ar waith, gan fod cwynion pellach wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

Cyhoeddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig ar 1 Rhagfyr ac ni chafodd ei dalu, felly rhestrwyd yr achos ar gyfer camau cyfreithiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Dylai'r achos hwn fod wedi cael ei ddatrys cyn iddo fynd i'r llys. Os ydych yn cael gwaith wedi ei wneud i'ch eiddo, chi sy'n gyfrifol am y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu ac mae angen i chi gyllidebu i'w symud.

 

"Nid yw gwaredu gwastraff mewn lôn gefn, fel ei fod yn rhwystro eraill ac yn gwneud i'r ardal leol edrych yn hyll, yn dderbyniol. Mae'r achos hwn yn dangos yn glir y byddwn yn mynd â'r achos i'r llys ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r achos drwy'r cyfryngau os na fydd unigolyn yn talu Hysbysiad Cosb Benodedig pan gaiff ei ddal."