Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 13/09/21

 

10/09/21 - Croesawu gwladolion Afghanistan i Gaerdydd a Chymru gan Arweinydd y Ddinas

Mae teuluoedd Afghanistan, oedd yn gorfod gadael eu cartrefi wrth iddyn nhw ffoi o'r Talban pan gwympodd eu llywodraeth, wedi cael eu croesawu i Gymru a Chaerdydd gan arweinydd Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27474.html

 

10/09/21 - Taith Sero Carbon yn dod i Gaerdydd

Ar ddydd Gwener, 17 Medi, bydd y Daith Sero Carbon, sy'n teithio o amgylch y DU, yn cyrraedd Caerdydd. Nod y daith yw rhannu'r neges sero-net gyda'r gymuned fusnes. Bydd yn dod i ben yn Glasgow erbyn COP 26 ym mis Tachwedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27472.html

 

10/09/21 - Fandaliaeth sylweddol i Barc Bute dros nos

Rydym wedi derbyn adroddiad y bore yma am ddifrod troseddol sylweddol ym Mharc Bute, man sydd mor agos at ein calonnau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27468.html

 

10/09/21 - Gwaith ehangu ar fin cychwyn ar Feicffordd 1 Caerdydd yn Nheras Cathays

Bydd gwaith i ymestyn beicffordd allweddol yng Nghaerdydd, a fydd yn rhedeg o Cathays i Ysbyty'r Waun, yn dechrau ddydd Llun, 13 Medi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27468.html

 

08/09/21 - #DyfodolCadarnhaolCDYDD - Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd: Nevaeh

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o adran Addysg y Cyngor. Mae'r tîm yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i helpu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol trwy amrywiaeth o gyfleoedd. Yn ystod y pandemig, mae'r staff wedi parhau i gynnig rhai o'u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar bobl ifanc.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27444.html