Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: croesawu gwladolion Afghanistan i Gaerdydd a Chymru gan Arweinydd y Ddinas; Taith Sero Carbon yn dod i Gaerdydd;nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a gwaith ehangu ar fin cychwyn ar Feicffordd 1 Caerdydd yn Nheras Cathays.
Croesawu gwladolion Afghanistan i Gaerdydd a Chymru gan Arweinydd y Ddinas
Mae teuluoedd Afghanistan, oedd yn gorfod gadael eu cartrefi wrth iddyn nhw ffoi o'r Taliban pan gwympodd eu llywodraeth, wedi cael eu croesawu i Gymru a Chaerdydd gan arweinydd Cyngor Caerdydd.
Mae gan bob un o'r teuluoedd hyn gysylltiadau ag elfennau Cymreig o'r Lluoedd Arfog, ar ôl gweithio gyda'n milwyr yn Affganistan.
Dechreuodd 40 o deuluoedd gyrraedd Cymru ddoe lle maent yn ymuno â 10 teulu arall o Afghanistan sydd eisoes wedi cael eu croesawu i Gymru.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r teuluoedd hyn wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi'n ofni am eu bywydau, tra'n ffoi o'r Taliban. Mae'n anodd i'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu'r hyn y maent wedi bod drwyddo. Felly, i mi, mae'n fraint gallu eu croesawu i Gymru ac i Gaerdydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni drwy'r amser i sicrhau ein bod yn barod i chwarae ein rhan, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i leddfu'r argyfwng ofnadwy hwn.
"Mae gan Gaerdydd hanes hir a balch o groesawu pobl o bob hil a chredo i brifddinas Cymru a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y teuluoedd hyn yn teimlo'r croeso hwnnw o'r diwrnod cyntaf wedi iddynt gyrraedd. Bydd llawer o'r teuluoedd hyn yn adeiladu bywydau newydd ledled Cymru a bydd rhai yn adeiladu bywydau newydd ym mhrifddinas Cymru. Croesawn bob un ohonynt, gan wybod y byddant yn dod yn aelodau pwysig a gwerthfawr o'n cymuned aml-ddiwylliannol."
Bydd y deugain teulu, sydd newydd gyrraedd, yn cael eu cartrefu dros dro mewn llety, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, hyd nes y deuir o hyd i gartrefi newydd iddynt ledled Cymru. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i gymryd gwladolion Afghanistan ac mae'r gwaith hwn yn rhan o ymateb a arweinir gan Gymru i'r argyfwng.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a phartneriaid, gan gynnwys y bwrdd iechyd, yr heddlu ac eraill i roi'r cynllun hwn ar waith. Mae Cyngor Caerdydd wedi chwarae rôl arweiniol yn y gwaith gyda swyddogion yn cymryd rhan o'r cychwyn cyntaf, gan weithio ar gynllunio a gwneud trefniadau a bydd ein timau wrth law i groesawu'r teuluoedd wrth iddynt gyrraedd Caerdydd.
Bydd y cyngor hefyd yn parhau i chwarae rhan allweddol, gan weithio gyda'r teuluoedd yn ddyddiol drwy gydol eu harhosiad yma, gan ddarparu cymorth a gwasanaethau. Mae llawer o'r bobl hyn yn fedrus iawn ar ôl gweithio a chefnogi unedau Cymreig y Lluoedd Arfog yn Afghanistan dros yr 20 mlynedd diwethaf."
Mae'r Swyddfa Gartref yn talu costau llety a bydd cynghorau'n cael cymorth ariannol llawn i roi cymorth integreiddio ac ailsefydlu cyffredinol. Bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn arwain ar gydlynu a lleoli teuluoedd gyda holl Awdurdodau Lleol Cymru yn unol â'u hymrwymiad i ARAP (Polisi Adleoli a Chymorth Afghanistan).
Dywedodd y Cyng. Thomas: "Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi wrth groesawu'r teuluoedd hyn i Gymru ac yr un mor falch â minnau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu i ddod o hyd i gartref newydd a dechrau bywyd newydd yng Nghymru - cenedl y maent eisoes wedi'i chysylltu â hi drwy'r gwaith y maent wedi'i wneud ochr yn ochr â'n lluoedd arfog. Fel dinas, mae Caerdydd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol tuag at gyfrifoldebau dyngarol y DU i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae hyn yn cynnwys croesawu un o'r nifer uchaf o bobl sy'n ceisio noddfa y peno blith unrhyw awdurdod lleol yn y DU.
"Mae Caerdydd hefyd wedi cymryd rhan yng nghynlluniau adsefydlu ffoaduriaid y DU ers iddynt gael eu creu ac wedi cyflawni ein hymrwymiadau adsefydlu blynyddol yn gyson o dan y Cynllun Adefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed a Chynllun Adsefydlu'r Deyrnas Unedig.
"Yn olaf, mae'r ffaith bod pobl Cymru wedi dangos eu bod am gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd o Affganistan yn wirioneddol galonogol. Rydym am i bawb allu chwarae eu rhan yng ngweledigaeth Cenedl Noddfa. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n eithriadol o galed gyda phartneriaid i baratoi ar gyfer newydd-ddyfodiaid ac er y bydd pobl yn awyddus i roi rhoddion - mae'n bosib na fydd modd i ni eu derbyn a'u prosesu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac elusennau sy'n rhoi cymorth i fudwyr er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd effeithlon ac effeithiol o ddefnyddio'r cynigion caredig hyn. Mae pob awdurdod lleol yn gweithio i nodi'r eiddo sydd ar gael y gellir ei ddefnyddio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gadael. Rydym yn gwerthfawrogi'r cynigion hael niferus i roi cysgod i rywun yn eu cartrefi eu hunain, ond ein prif angen yw eiddo teuluol mwy ar hyn o bryd."
Taith Sero Carbon yn dod i Gaerdydd
Ar ddydd Gwener, 17 Medi, bydd y Daith Sero Carbon, sy'n teithio o amgylch y DU, yn cyrraedd Caerdydd. Nod y daith yw rhannu'r neges sero-net gyda'r gymuned fusnes. Bydd yn dod i ben yn Glasgow erbyn COP 26 ym mis Tachwedd.
Bydd digwyddiadau dydd Gwener nesaf yn cynnwys digwyddiad arbennig yn Neuadd Dewi Sant. Bydd Map Ffordd Caerdydd i Sero-Net yn edrych ar y cysyniad o garbon sero-net, a pham y mae mor hanfodol i fusnesau yn y #DegawdGweithredu hwn.
Mae Map Ffordd Caerdydd i Sero-Net yn ddigwyddiad am ddim, a gellir cofrestru i gadw lle ar-lein yma:
https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-roadmap-to-net-zero-zero-carbon-tour-tickets-167865039853
Bydd coets drydan 100% gyntaf y DU, y ‘Carbon Battle Bus', yno ar y diwrnod, a gall gwesteion ddysgu mwy am yr ymgyrch Ras i Sero mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei chefnogi, clywed Straeon Carbon, a rhannu syniadau gyda phobl leol, sefydliadau a grwpiau cymunedol.
Anogir pobl i seiclo i'r digwyddiad, lle bydd sesiynau Dr Beic ar gael, yn cynnig gwiriadau diogelwch a thiwnio beiciau.
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Daith Sero Carbon, a chyfle i wneud addewid sero-net, ar-lein yn:
Erthyglau cysylltiedig
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (30 Awst - 05 Medi)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
09 Medi 2021, 09:00
Achosion: 1,631
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 444.5 (Cymru: 522.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 10,163
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,769.9
Cyfran bositif: 16.0% (Cymru: 19.1% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 9 Medi
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 707,298 (Dos 1: 369,224 Dos 2: 338,074)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Gwaith ehangu ar fin cychwyn ar Feicffordd 1 Caerdydd yn Nheras Cathays
Bydd gwaith i ymestyn beicffordd allweddol yng Nghaerdydd, a fydd yn rhedeg o Cathays i Ysbyty'r Waun, yn dechrau ddydd Llun, 13 Medi.
Bydd Beicffordd 1 yn cael ei hymestyn o Gilgant Eglwys Andreas a Heol Senghennydd ac ar hyd Teras Cathays yn ail gam y gwaith o ddarparu beicffordd strategol ar un o brif lwybrau cymudo'r ddinas.
Bydd y llwybr yn cysylltu rhai o'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru â chanol y ddinas a rhai o gyrchfannau prysuraf y ddinas, Prifysgol Caerdydd, Theatr y Sherman, gorsaf drenau Cathays a safle Ysbyty Athrofaol Cymru a sawl ardal siopa. Mae'r llwybr hefyd yn mynd heibio sawl ysgol gynradd a llyfrgell gyhoeddus.
Bydd gwaith galluogi yn dechrau ar Deras Cathays ddydd Llun, 13 Medi, a bydd yn parhau drwy hydref 2022. Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd y feicffordd ar wahân, ddwyffordd, yn ymestyn y llwybr presennol ar Gilgant Eglwys Andreas a Heol Senghennydd hyd at Ysbyty Athrofaol Cymru, drwy Heol yr Eglwys Newydd, Heol Allensbank a Rhodfa'r Brenin Siôr V.
Mae'r gwaith cynllunedig yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda phreswylwyr. Mae cynghorwyr lleol a thrigolion sy'n byw yn Nheras Cathays wedi cael gwybod am y trefniadau a bydd mannau parcio eraill ar gael i ddeiliaid trwyddedau ar strydoedd cyfagos tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo.
Darllenwch fwy yma: