Back
Croesawu gwladolion Afghanistan i Gaerdydd a Chymru gan Arweinydd y Ddinas

10/09/21

Mae teuluoedd Afghanistan, oedd yn gorfod gadael eu cartrefi wrth iddyn nhw ffoi o'r Taliban pan gwympodd eu llywodraeth, wedi cael eu croesawu i Gymru a Chaerdydd gan arweinydd Cyngor Caerdydd.

Mae gan bob un o'r teuluoedd hyn gysylltiadau ag elfennau Cymreig o'r Lluoedd Arfog, ar ôl gweithio gyda'n milwyr yn Affganistan.

Dechreuodd 40 o deuluoedd gyrraedd Cymru ddoe lle maent yn ymuno â 10 teulu arall o Afghanistan sydd eisoes wedi cael eu croesawu i Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r teuluoedd hyn wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi'n ofni am eu bywydau, tra'n ffoi o'r Taliban. Mae'n anodd i'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu'r hyn y maent wedi bod drwyddo. Felly, i mi, mae'n fraint gallu eu croesawu i Gymru ac i Gaerdydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni drwy'r amser i sicrhau ein bod yn barod i chwarae ein rhan, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i leddfu'r argyfwng ofnadwy hwn.

"Mae gan Gaerdydd hanes hir a balch o groesawu pobl o bob hil a chredo i brifddinas Cymru a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y teuluoedd hyn yn teimlo'r croeso hwnnw o'r diwrnod cyntaf wedi iddynt gyrraedd. Bydd llawer o'r teuluoedd hyn yn adeiladu bywydau newydd ledled Cymru a bydd rhai yn adeiladu bywydau newydd ym mhrifddinas Cymru. Croesawn bob un ohonynt, gan wybod y byddant yn dod yn aelodau pwysig a gwerthfawr o'ncymuned aml-ddiwylliannol."

Bydd y deugain teulu, sydd newydd gyrraedd, yn cael eu cartrefu dros dro mewn llety, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, hyd nes y deuir o hyd i gartrefi newydd iddynt ledled Cymru. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i gymryd gwladolion Afghanistan ac mae'r gwaith hwn yn rhan o ymateb a arweinir gan Gymru i'r argyfwng.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym wedi bod yn gweithio ers peth amser gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a phartneriaid, gan gynnwys y bwrdd iechyd, yr heddlu ac eraill i roi'r cynllun hwn ar waith.   Mae Cyngor Caerdydd wedi chwarae rôl arweiniol yn y gwaith gyda swyddogion yn cymryd rhan o'r cychwyn cyntaf, gan weithio ar gynllunio a gwneud trefniadau a bydd ein timau wrth law i groesawu'r teuluoedd wrth iddynt gyrraedd Caerdydd.

Bydd y cyngor hefyd yn parhau i chwarae rhan allweddol, gan weithio gyda'r teuluoedd yn ddyddiol drwy gydol eu harhosiad yma, gan ddarparu cymorth a gwasanaethau.  Mae llawer o'r bobl hyn yn fedrus iawn ar ôl gweithio a chefnogi unedau Cymreig y Lluoedd Arfog yn Afghanistan dros yr 20 mlynedd diwethaf."

Mae'r Swyddfa Gartref yn talu costau llety a bydd cynghorau'n cael cymorth ariannol llawn i roi cymorth integreiddio ac ailsefydlu cyffredinol. Bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn arwain ar gydlynu a lleoli teuluoedd gyda holl Awdurdodau Lleol Cymru yn unol â'u hymrwymiad i ARAP (Polisi Adleoli a Chymorth Afghanistan).

Dywedodd y Cyng. Thomas: "Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi wrth groesawu'r teuluoedd hyn i Gymru ac yr un mor falch â minnau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu i ddod o hyd i gartref newydd a dechrau bywyd newydd yng Nghymru - cenedl y maent eisoes wedi'i chysylltu â hi drwy'r gwaith y maent wedi'i wneud ochr yn ochr â'n lluoedd arfog. Fel dinas, mae Caerdydd yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol tuag at gyfrifoldebau dyngarol y DU i geiswyr lloches a ffoaduriaid.  Mae hyn yn cynnwys croesawu un o'r nifer uchaf o bobl sy'n ceisio noddfa y peno blith unrhyw awdurdod lleol yn y DU.

"Mae Caerdydd hefyd wedi cymryd rhan yng nghynlluniau adsefydlu ffoaduriaid y DU ers iddynt gael eu creu ac wedi cyflawni ein hymrwymiadau adsefydlu blynyddol yn gyson o dan y Cynllun Adefydlu Pobl sy'n Agored i Niwed a Chynllun Adsefydlu'r Deyrnas Unedig.

"Yn olaf, mae'r ffaith bod pobl Cymru wedi dangos eu bod am gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd o Affganistan yn wirioneddol galonogol. Rydym am i bawb allu chwarae eu rhan yng ngweledigaeth Cenedl Noddfa.  Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n eithriadol o galed gyda phartneriaid i baratoi ar gyfer newydd-ddyfodiaid ac er y bydd pobl yn awyddus i roi rhoddion  - mae'n bosib na fydd modd i ni eu derbyn a'u prosesu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac elusennau sy'n rhoi cymorth i fudwyr er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd effeithlon ac effeithiol o ddefnyddio'r cynigion caredig hyn. Mae pob awdurdod lleol yn gweithio i nodi'r eiddo sydd ar gael y gellir ei ddefnyddio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gadael. Rydym yn gwerthfawrogi'r cynigion hael niferus i roi cysgod i rywun yn eu cartrefi eu hunain, ond ein prif angen yw eiddo teuluol mwy ar hyn o bryd."