Back
Taith Sero Carbon yn dod i Gaerdydd

10/09/21

Ar ddydd Gwener, 17 Medi, bydd y Daith Sero Carbon, sy'n teithio o amgylch y DU, yn cyrraedd Caerdydd. Nod y daith yw rhannu'r neges sero-net gyda'r gymuned fusnes. Bydd yn dod i ben yn  Glasgow erbyn COP 26 ym mis Tachwedd.

Bydd digwyddiadau dydd Gwener nesaf yn cynnwys digwyddiad arbennig yn Neuadd Dewi Sant. Bydd  Map Ffordd Caerdydd i Sero-Net  yn edrych ar y cysyniad o garbon sero-net, a pham y mae mor hanfodol i fusnesau yn y #DegawdGweithredu hwn.

Mae Map Ffordd Caerdydd i Sero-Net yn ddigwyddiad am ddim, a gellir cofrestru i gadw lle ar-lein yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-roadmap-to-net-zero-zero-carbon-tour-tickets-167865039853

Bydd coets drydan 100% gyntaf y DU, y ‘Carbon Battle Bus', yno ar y diwrnod, a gall gwesteion ddysgu mwy am yr ymgyrch Ras i Sero mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei chefnogi, clywed Straeon Carbon, a rhannu syniadau gyda phobl leol, sefydliadau a grwpiau cymunedol.

Anogir pobl i seiclo i'r digwyddiad, lle bydd sesiynau Dr Beic ar gael, yn cynnig gwiriadau diogelwch a thiwnio beiciau.

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Daith Sero Carbon, a chyfle i wneud addewid sero-net, ar-lein yn:

www.zerocarbontour.com

 

Erthyglau cysylltiedig