Back
Fandaliaeth sylweddol i Barc Bute dros nos

10.09.2021

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury, "Rydym wedi derbyn adroddiad y bore yma am ddifrod troseddolsylweddol ym Mharc Bute, man sydd mor agos at ein calonnau.

"Mae gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi'i wneud yr holl ffordd o Bont y Gored Ddu i Ystafelloedd Te Pettigrew. Mae dros 50 o goed wedi'u dinistrio, biniau wedi'u rhwygo o'r concrit, planhigion a photiau planhigion wedi'u dinistrio, cloriau tyllau archwilio wedi'u torri - mae ein swyddogion yn dal i asesu'r parc i weld hyd a lled y difrod.

"Rwy'n condemnio'r ymddygiad hwn yn llwyr. Nid yw hyn yn dderbyniol. Nid oes rheswm o gwbl i unrhyw un ddinistrio ardal sydd yno'n unswydd i bawb ei mwynhau.

"Mae hon yn drosedd ac mae'r heddlu wedi cael gwybod. Rwy'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 i helpu i ddelio â'r weithred ddisynnwyr hon o fandaliaeth."