Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 3 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen

Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen. Rydym yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor - www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd  -neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.

Yn ogystal â'r casgliadau gwastraff gardd misol wrth ymyl y ffordd, gellir parhau i ddod â gwastraff gardd i'n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer, drwy gadw slot drwy wefan y cyngor -  www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu.

Bydd y ddarpariaeth ychwanegol i drigolion ddod â'u gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu hefyd yn parhau nes y clywir yn wahanol, ac mae'n cynnwys:

  • Cynyddu'r lwfans blynyddol ar gyfer ymweliadau i 30 fesul aelwyd yn hytrach na 26
  • Cynyddu'r slotiau sydd ar gael fesul diwrnod o 400 i 570 (i fyny 42.5%);
  • Caniatáu i aelwydydd gadw slot, ac ymweld ar yr un diwrnod lle mae slotiau ar gael
  • Caniatáu i aelwydydd ymweld hyd at 3 gwaith y dydd (mae hyn wedi'i gyfyngu i 1 ar hyn o bryd) a:
  • Cynyddu ein hamseroedd agor, gyda'r slotiau olaf sydd ar gael ar gyfer gollwng am 5.30pm.

Mae'r trefniadau hyn ar waith ar gyfer pawb sy'n ymweld â'r canolfannau ailgylchu mewn car a chynghorir trigolion bod angen iddynt ddod â'u cadarnhad cadw slot, ynghyd â phrawf eu bod yn preswylio yn Nghaerdydd, megis trwydded yrru, a'i gyflwyno i staff wrth gyrraedd y safle.

O ystyried bod achosion Covid yng Nghymru yn cynyddu unwaith eto, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau i amserlenni casglu maes o law.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (23 Awst - 29 Awst)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

02 Medi 2021, 09:00

 

Achosion: 1,184

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 322.7 (Cymru: 415.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 8,074

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,200.6

Cyfran bositif: 14.7% (Cymru: 19.3% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Awst

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  703,059 (Dos 1: 367,717 Dos 2:  335,342)

 

  • 80 a throsodd: 20,637 / 94.6% (Dos 1) 20,282 / 93% (Dos 2)
  • 75-79: 15,074 / 96.3% (Dos 1) 14,869 / 95% (Dos 2)
  • 70-74: 21,456 / 95.7% (Dos 1) 21,312 / 95% (Dos 2)
  • 65-69: 21,960 / 94.2% (Dos 1) 21,666 / 92.9% (Dos 2)
  • 60-64: 26,021 / 92.3% (Dos 1) 25,650 / 91% (Dos 2)
  • 55-59: 29,341 / 90.2% (Dos 1) 28,764 / 88.4% (Dos 2)
  • 50-54: 28,996 / 87.8% (Dos 1) 28,242 / 85.5% (Dos 2)
  • 40-49: 55,161 / 81.4% (Dos 1) 52,824 / 78% (Dos 2)
  • 30-39: 60,050 / 74.9% (Dos 1) 54,145 / 68.8% (Dos 2)
  • 18-29: 78,708 / 75.9% (Dos 1) 67,537 / 65.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,876 / 98.5% (Dos 1) 1,852 / 97.3% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,305 / 93.3% (Dos 1) 11,064 / 91.3% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,186 / 89.8% (Dos 1) 44,357 / 86.3% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser