Back
Gwaith Ffordd Gyda’r Hwyr yn dechrau ar Stryd y Castell dydd Sul

03/09/21

Bydd gwaith ffordd yn dechrau ar Stryd y Castell nos Sul - 5 Medi  - gyda'r nod o ailagor y ffordd i draffig cyffredinol erbyn diwedd mis Hydref.

Er y bydd y gwaith dan sylw yn mynd rhagddo drwy gydol y nos, bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i dacsis a bysiau i deithio un ffordd, o Heol y Bont-faen a Heol y Porth i Heol y Gogledd. Bydd y gwaith ond yn mynd rhagddo rhwng 8pm a 6am ac felly yn ystod y dydd bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i fysiau a thacsis i'r ddau gyfeiriad.

Bydd y llwybr i ganol y ddinas o Boulevard de Nantes, i'r de i Heol y Gogledd, tuag at Stryd y Castell, ar gau i bob traffig, ac eithrio'r gwasanaethau brys, a fydd yn gallu teithio i'r ddau gyfeiriad. Tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, bydd ein contractwr ar y safle yn rheoli pob danfoniad i siopau a busnesau.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y dramwyfa, penderfynodd Cabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mehefin eleni i ailagor y stryd dros dro i draffigtra bod mwy o ddata'n cael ei gasglu ar lifoedd traffig ar ôl y pandemig a lefelau llygredd aer yng nghanol y ddinas.

Fodd bynnag, bydd y cynllun dros dro yn dal i leihau faint o draffig cyffredinol sy'n gallu defnyddio Stryd y Castell yn sylweddol o'i gymharu â'r cyfnod cyn covid, gan leihau nifer y lonydd sydd ar gael o dair i ddwy.

Cymeradwywyd y cynllun hwn yn y lle cyntaf gan banel arbenigol annibynnol Llywodraeth Cymru a'i gymeradwyo gan Weinidogion fel rhan o Gynllun Aer Glân wedi'i rwymo mewn cyfraith ar gyfer canol y ddinas a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2019 cyn dyfodiad y pandemig.

Mae'r cynllun dros dro a gaiff ei roi ar waith yn cynnwys:

  • Ailagor dwy lôn i draffig cyffredinol
  • Bydd y lôn fysus tua'r gorllewin yn dal ar waith
  • Bydd y llwybr beicio dros dro, dwy ffordd yn dal ar waith
  • Bydd y safle tacsis presennol ar Stryd y Castell yn cael ei ddiddymu, gan alluogi tacsis i ddefnyddio'r mannau llwytho i godi cwsmeriaid y tu allan i'r amseroedd danfoniadau rhwng 6am a 10am
  • Bydd croesfan enfys newydd yn cael ei gosod a'i threialu, a fydd yn disodli'r groesfan bresennol i gerddwyr y tu allan i gatiau'r Castell.

Er mwyn hwyluso'r cynllun, bydd y palmant estynedig ar Stryd y Castell yn cael ei ddiddymu, ac mae angen gwneud amrywiaeth o waith arall, gan gynnwys ail-osod y systemau telemateg; rhoi wyneb a marciau ffordd newydd ar y ffordd a gosod yr arwyddion cywir cyn y gall Stryd y Castell ail-agor i geir preifat.

Bydd y drefn ffyrdd newydd yn golygu y bydd y cyngor yn bodloni'r gofyniad sydd wedi'i rwymo mewn cyfraith i leihau lefelau llygredd ar y Stryd y Castell i derfynau derbyniol yn yr amser byrraf posibl ac mae'n cyd-fynd â chynllun gwreiddiol y Cyngor ar gyfer y ffordd fel y nodir yn y Cynllun Aer Glân a luniwyd gan Gyngor Caerdydd ac a gymeradwywyd wedyn gan Lywodraeth Cymru yn 2019.