02/08/21
Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen. Rydym yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd-neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.
Yn ogystal â'r casgliadau gwastraff gardd misol wrth ymyl y ffordd, gellir parhau i ddod â gwastraff gardd i'n canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer, drwy gadw slot drwy wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu.
Bydd y ddarpariaeth ychwanegol i drigolion ddod â'u gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu hefyd yn parhau nes y clywir yn wahanol, ac mae'n cynnwys:
Mae'r trefniadau hyn ar waith ar gyfer pawb sy'n ymweld â'r canolfannau ailgylchu mewn car a chynghorir trigolion bod angen iddynt ddod â'u cadarnhad cadw slot, ynghyd â phrawf eu bod yn preswylio yn Nghaerdydd, megis trwydded yrru, a'i gyflwyno i staff wrth gyrraedd y safle.
O ystyried bod achosion Covid yng Nghymru yn cynyddu unwaith eto, byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau i amserlenni casglu maes o law.