Back
#DyfodolCadarnhaolCDYDD - Mae Caredigrwydd yn Bwysig: Ysgol Uwchradd Willows yn Helpu Eraill yn y Gymuned

02.09.2021

 

 

Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi dysgu bod caredigrwydd yn bwysig. Yn sicr, roedd ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Willows yn rhoi hyn ar waith yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o brosiect ar ddiwedd y tymor diwethaf.

 

Fel rhan o'r prosiect Genius Hour, dan arweiniadMr. Roberts, ac mewn partneriaethgyda First Give - rhaglen sy'n ysbrydoliac yn grymuso pobl ifanc i gymryd camau i wneud newid cadarnhaol yn y gymdeithas - dewisodd grwpiau o ddisgyblion Blwyddyn 8elusen leol gan helpu i godi ymwybyddiaeth o'u gwaith.

 

Roedd yr ystod amrywiol o faterion yn cynnwys digartrefedd, atal hunanladdiad ac iechyd meddwl - cysylltodd pob grŵp ag elusen a chynhaliodd gyfarfod rhithwir gyda'u dosbarth. Bu rhai o'r grwpiau yn trafod eu helusen dros Willows Waves Radio Broadcast a dewisodd eraill godi arian trwy werthu teisennau a chynnal gêm bêl-droed.

 

Cododd y grwpiau y swm anhygoel o £400 ar gyfer yr elusennau o'u dewis.

 

Ar ddiwrnod y rownd derfynol, gofynnwyd i bob grŵp gyflwyno eu gwaith i banel o feirniaid - Mr Thomas,Pennaeth Cynorthwyol,Miss Coles-Riley, Swyddog Lles Blwyddyn 8a Rhiannon o First Give.

 

Ar ôl ystyried yn ofalus a llawer o bwyso a mesur, penderfynwyd yn y pen-draw mai'r enillwyr oedd Sama Al-Battat, Sahand Mohammed a Katiba Laksari - am godi ymwybyddiaeth o Boomerang.

 

Mae Boomerang yn gweithio gyda'r gymuned a'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac mae'n cefnogi'r rhai sydd mewn amodau byw critigol.

 

Roedd eu gwaith caled a'u hymrwymiad amlwg i'r achos hwn i'w gweld yn glir a chawsant eu gwobrwyo gyda siec o £1000 i'r elusen.

 

Cafodd PaulGwilym,a sefydloddBoomerang yn 2012 - ac sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Willows - wahoddiad i'r ysgol lle cyflwynwyd y wobr iddo. Dywedodd, "Roeddwn wrth fy modd, yn gyntaf oherwydd bod y disgyblion wedi dewis cefnogi'r prosiect ac yn ail oherwydd eu bod wedi ennill!"

 

Gwnaeth y grŵp oedd yn cynrychioli eu dosbarth argraff fawr ar y beirniaid hefyd. Roedd y grŵp yn cynnwys Tasnim Quayum, Humaira Rahman, Youssef El-Refaei a Chira Mohamed. Enillodd Wobr Canmoliaeth y Beirniaid am ei gyflwyniad ar gyfer Sefydliad Jacob Abraham.

Roedd hwn yn brosiect gwych yr oedd y disgyblion yn frwd iawn amdano.

 

Da iawn i'r holl ddisgyblion a'u tiwtoriaid dosbarth am fynd y filltir ychwanegol i wneud hyn yn brosiect mor llwyddiannus.

 

gGall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy ymweld ag un o'r gwefannau canlynol:

 

👉 https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol

👉  https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles/

👉  https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/

👉  http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/

👉 www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

 

Gobeithiwn y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac yn eich ysbrydoli chi.