Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Neuadd Dewi Sant ar fin codi'r llen ar ôl 18 mis; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a alga glaswyrdd ym mhwll Parc Cefn Onn.
Neuadd Dewi Sant ar fin codi'r llen ar ôl 18 mis
Bydd Neuadd Dewi Sant yn croesawu cynulleidfaoedd yn ôl Ddydd Mawrth 31 Awst gyda'i sioe fyw gyntaf mewn 18 mis.
Cafodd y lleoliad ei gau i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2020 yn dilyn cyngor gan Lywodraeth San Steffan oherwydd mesurau diogelwch Covid-19.
Fodd bynnag, ar ôl i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero, mae'r Neuadd yn ôl gyda bang - gan ailagor gyda'r sioe fyw gyntaf yng Nghymru sydd â chynulleidfa lawn dan do.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury "Rydym wrth ein bodd y bydd y sioe fyw gyntaf yng Nghymru, sydd â chynulleidfa lawn dan do, yn Neuadd Dewi Sant, ac yn enwedig gydag enw mor uchel ei broffil â Jimmy Carr.
"Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi colli adloniant byw gymaint ac wedi dod i sylweddoli faint o ran hanfodol y mae'n ei chwarae yn ein bywydau cymdeithasol. Hoffwn estyn croeso nôl cynnes i'n noddwyr ffyddlon wrth fwynhau dychweliad diogel i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, a diolch enfawr am eich cefnogaeth amhrisiadwy."
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Dewi Sant ac i archebu tocynnau ar gyfer sioeau sydd ar y gweill, ewch i:
www.NeuaddDewiSantCaerdydd.co.uk
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (13 Awst - 19 Awst)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
23 Awst 2021, 09:00
Achosion: 877
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 239.0 (Cymru: 306.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,391
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,741.9
Cyfran bositif: 13.7% (Cymru: 17.0% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 23 Awst
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 701,330 (Dos 1: 366,755 Dos 2: 334,575)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Alga Glaswyrdd ym Mhwll Parc Cefn Onn
Sylwer bod samplau a dynnwyd yn ddiweddar o'r pwll ym Mharc Cefn Onn wedi dangos presenoldeb Algâu Gwyrddlas.
Mae algâu gwyrddlas yn byw'n naturiol mewn llawer o ddyfroedd mewndirol, aberoedd a'r môr, ac o dan rai amodau amgylcheddol megis tymheredd uchel, gwyntoedd o gyflymder isel, a llifoedd isel afonydd, gall poblogaethau algâu dyfu'n gyflym. Gall y twf gormodol hwn fod yn arbennig o gyffredin ar yr adeg hon o'r flwyddyn ac fe'i gelwir yn 'ordyfiant'.
❌Dylid osgoi'r algâu gan y gall fod yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid.
❗Mae arwyddion rhybudd ar waith i atgoffa pobl i gadw draw o ymyl y dŵr er mwyn osgoi cysylltiad â'r algâu.
🐶Cadwch anifeiliaid anwes i ffwrdd o ymyl y dwr.
Am ragor o wybodaeth ar alga glaswyrdd, ewch i:
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/iechyd-cyhoeddus-amgylcheddol/algau-gwyrddlas/