Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 20 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: canolfan hyfforddi adeiladu newydd ar gyfer De-Ddwyrain Cymru yn lansio yng Nghaerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd;cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; Cartref Cŵn Caerdydd yn gwneud partneriaeth gyda The Rescue Hotel i greu practis milfeddygol fforddiadwy; a profiad realiti estynedig rhyngwladol newydd yn dod i Gymru.

 

Canolfan hyfforddi adeiladu newydd ar gyfer De-Ddwyrain Cymru yn lansio yng Nghaerdydd

Mae cyfleuster newydd cyffrous, sy'n cynnig hyfforddiant hanfodol a phrofiad adeiladu ar y safle i geiswyr gwaith a myfyrwyr diploma adeiladu ar draws De-ddwyrain Cymru, wedi agor.

Sefydlwyd Academi Adeiladu Ar y Safle De-ddwyrain Cymru gyda chyllid diwydiant gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), Comisiwn Profiad Ar y Safle. Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, darparwyr addysg a hyfforddiant a phartneriaid adeiladu yn y rhanbarth.

Wedi'i leoli ar safle hen ysgol uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd, Tredelerch - y safle datblygu mwyaf ym m phartneriaeth adeiladu tai Byw Caerdydd Cyngor Caerdydd gyda Wates Residential, bydd yr Academi Adeiladu newydd yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu. 

Bydd mwy na 700 o bobl sy'n chwilio am yrfa ym maes adeiladu o bob rhan o'r gymuned yn gallu cael mynediad i leoliadau gwaith a hyfforddiant ar y safle dros y tair blynedd a bydd cyfleoedd cyflogaeth neu brentisiaeth ar gael i fwy na 200 o bobl. Yn ogystal, bydd yr Academi Adeiladu yn hwyluso profiadau ar y safle i dros 700 o fyfyrwyr diploma adeiladu iddynt ennill gyflogaeth a'u cael yn barod i fod ar y safle cyn cael mynediad i swyddi adeiladu gwag.

Mae'r fenter yn ceisio annog llawer mwy o bobl i ystyried adeiladu fel gyrfa, gan gynnwys unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, megis menywod a unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd.

Bydd yr Academi Adeiladu yn hwyluso nifer o gyfleoedd i hyfforddeion gael profiad priodol ar y safle a dod o hyd i gyflogaeth a bod yn barod at fod ar y safle. Mae'r Cyngor a Wates Residential yn adeiladu mwy na 200 o gartrefi newydd ar y safle dros y tair blynedd nesaf fel rhan o ddatblygiad hynod arloesol, di-garbon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Mae'r diwydiant adeiladu yn profi prinder sgiliau yn gyffredinol ar hyn o bryd ac mae diffyg cysylltiad rhwng cymwysterau addysg uwch mewn disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag adeiladu a lefel parodrwydd y safle y mae myfyrwyr yn ei ennill. Rydym yn hynod falch o gael y cyfleuster newydd hwn yn y rhanbarth i fynd i'r afael â'r materion hyn a chefnogi unigolion ar draws De-ddwyrain Cymru i gael profiad ymarferol o'r diwydiant hwn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27318.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (09 Awst - 15 Awst)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

19 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 649

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 176.9 (Cymru: 226.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,614

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,530.1

Cyfran bositif: 11.6% (Cymru: 14.4% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 18 Awst

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  697,252 (Dos 1: 363,660 Dos 2:  333,592)

 

  • 80 a throsodd: 20,677 / 94.6% (Dos 1) 20,318 / 93% (Dos 2)
  • 75-79: 15,077 / 96.3% (Dos 1) 14,872 / 95% (Dos 2)
  • 70-74: 21,462 / 95.7% (Dos 1) 21,300 / 94.9% (Dos 2)
  • 65-69: 21,956 / 94.1% (Dos 1) 21,660 / 92.9% (Dos 2)
  • 60-64: 26,017 / 92.2% (Dos 1) 25,623 / 90.8% (Dos 2)
  • 55-59: 29,331 / 90.1% (Dos 1) 28,740 / 88.3% (Dos 2)
  • 50-54: 28,976 / 87.7% (Dos 1) 28,193 / 85.4% (Dos 2)
  • 40-49: 55,035 / 81.2% (Dos 1) 52,601 / 77.6% (Dos 2)
  • 30-39: 59,761 / 74.6% (Dos 1) 54,714 / 68.3% (Dos 2)
  • 18-29: 78,098 / 75.5% (Dos 1) 66,366 / 64.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,885 / 98.5% (Dos 1) 1,856 / 97% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,312 / 93.9% (Dos 1) 11,069 / 91.9% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,117 / 89.7% (Dos 1) 44,238 / 86.1% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Cartref Cŵn Caerdydd yn gwneud partneriaeth gyda The Rescue Hotel i greu practis milfeddygol fforddiadwy

Bydd practis milfeddygol newydd sy'n cynnig gofal fforddiadwy i gŵn yn agor yng Nghartref Cŵn Caerdydd.

Bydd Elusen The Rescue Hotel a chennad yr elusen, Sam Warburton, yn lansio'r Ganolfan Iechyd newydd yn swyddogol ddydd Sadwrn 21 Awst.

Mae Canolfan Iechyd The Rescue Hotel yn gweld Cartref Cŵn Caerdydd yn ymuno ag Elusen The Rescue Hotel, a'r milfeddyg Jamie Allen i ddarparu'r gwasanaeth newydd.

Nod y practis yw cadw prisiau'n fforddiadwy fel bod pobl yn cael cyfle i gael triniaeth ar gyfer eu cŵn na fyddent fel arall yn gallu eu cael, ac mae wedi gosod prisiau is na'r milfeddygfeydd prif ffrwd.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Rwy'n falch iawn o weld y fenter ar y cyd rhwng Cartref Cŵn Caerdydd, Elusen The Rescue Hotel a Jamie yn agor i drigolion Caerdydd.

"Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn perchnogaeth anifeiliaid anwes gan ein bod yn treulio mwy o amser gartref, felly mae'n bwysicach nag erioed bod perchnogion cŵn yn gallu defnyddio gwasanaethau fforddiadwy o ansawdd uchel i'w hanifeiliaid anwes."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27316.html

 

Profiad Realiti Estynedig rhyngwladol newydd yn dod i Gymru

Ddydd Gwener 20 Awst, bydd tîm o bobl greadigol, gan gynnwys partneriaid o Gymru, yn lansio 'Fix Up The City' - y profiad Realiti Estynedig (AR) dinesig cyntaf erioed yn seiliedig ar y ddeuawd eiconig Wallace &Gromit - yng Nghaerdydd, San Francisco a Bryste.

Mae'r antur estynedig newydd wedi'i chreu gan Aardman, stiwdio animeiddio sydd wedi ennill sawl gwobr®, a Fictioneers: sy'n gydweithrediad rhwng partneriaid gan gynnwys Gemau Tiny Rebel o Gasnewydd, Potato (rhan o rwydwaith AKQA), a Sugar Creative.

Mae'r gweithgaredd, a ariennir gan UK Research &Innovation (UKRI), yn dilyn lansiad llwyddiannus Fictioneers o The Big Fix Up yn gynharach eleni. Cafodd y prosiect gefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.  Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau Sgrin, Digidol, Cerddoriaeth a Chyhoeddi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae sector digidol a chreadigol Caerdydd yn un o'i gryfderau, ac mae Bae Caerdydd yn un o brif gyrchfannau twristiaeth y ddinas, gan ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer yr hyn sy'n addo i fod yn brofiad gwych i ymwelwyr o bob rhan o'r rhanbarth, a thu hwnt.

"Bydd y dechnoleg realiti estynedig y tu ôl i'r antur rhyngweithiol hwn yn trawsnewid yr ardal yn stori deuluol, llawn troeon trwstan, fydd yn denu ymwelwyr, ac yn hwb i economi'r ddinas wrth i ni barhau i wella o effaith y pandemig. Mae tîm o safon uchel yn gweithio ar y prosiect hwn, a rydym yn falch iawn o gael ein dewis ochr yn ochr â Bryste a San Francisco, fel un o ddim ond tair dinas ledled y byd i gynnal y digwyddiad unigryw hwn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27314.html