20/8/21
Mae cyfleuster newydd cyffrous, sy'n cynnig hyfforddiant hanfodol a phrofiad adeiladu ar y safle i geiswyr gwaith a myfyrwyr diploma adeiladu ar draws De-ddwyrain Cymru, wedi agor.
Sefydlwyd Academi Adeiladu Ar y Safle De-ddwyrain Cymru gyda chyllid diwydiant gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), Comisiwn Profiad Ar y Safle. Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, darparwyr addysg a hyfforddiant a phartneriaid adeiladu yn y rhanbarth.
Wedi'i leoli ar safle hen ysgol uwchradd y Dwyrain oddi ar Heol Casnewydd, Tredelerch - y safle datblygu mwyaf ym m phartneriaeth adeiladu tai Byw Caerdydd Cyngor Caerdydd gyda Wates Residential, bydd yr Academi Adeiladu newydd yn helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu.
Bydd mwy na 700 o bobl sy'n chwilio am yrfa ym maes adeiladu o bob rhan o'r gymuned yn gallu cael mynediad i leoliadau gwaith a hyfforddiant ar y safle dros y tair blynedd a bydd cyfleoedd cyflogaeth neu brentisiaeth ar gael i fwy na 200 o bobl. Yn ogystal, bydd yr Academi Adeiladu yn hwyluso profiadau ar y safle i dros 700 o fyfyrwyr diploma adeiladu iddynt ennill gyflogaeth a'u cael yn barod i fod ar y safle cyn cael mynediad i swyddi adeiladu gwag.
Mae'r fenter yn ceisio annog llawer mwy o bobl i ystyried adeiladu fel gyrfa, gan gynnwys unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, megis menywod a unigolion o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Bydd yr Academi Adeiladu yn hwyluso nifer o gyfleoedd i hyfforddeion gael profiad priodol ar y safle a dod o hyd i gyflogaeth a bod yn barod at fod ar y safle. Mae'r Cyngor a Wates Residential yn adeiladu mwy na 200 o gartrefi newydd ar y safle dros y tair blynedd nesaf fel rhan o ddatblygiad hynod arloesol, di-garbon.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng. Chris Weaver: "Mae'r diwydiant adeiladu yn profi prinder sgiliau yn gyffredinol ar hyn o bryd ac mae diffyg cysylltiad rhwng cymwysterau addysg uwch mewn disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag adeiladu a lefel parodrwydd y safle y mae myfyrwyr yn ei ennill. Rydym yn hynod falch o gael y cyfleuster newydd hwn yn y rhanbarth i fynd i'r afael â'r materion hyn a chefnogi unigolion ar draws De-ddwyrain Cymru i gael profiad ymarferol o'r diwydiant hwn.
"Bydd yr Academi ar y safle yn helpu i bontio'r bwlch sgiliau presennol drwy ddarparu mynediad i ddarpariaeth o ansawdd uchel ar safle adeiladu byw, gan wneud cyfranogwyr yn ymwybodol o'r disgwyliadau a'r protocolau sydd eu hangen ar y safle. Bydd y ganolfan yn helpu i gynyddu parodrwydd pobl i weithio, gan eu paratoi'n well ar gyfer diwallu anghenion cyflogwyr a sicrhau llif o weithwyr sy'n barod am waith a hyfforddwyd yn lleol ar gyfer y sector.
"Mae ein gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eisoes yn gweithio'n agos gyda phartneriaid adeiladu yn y rhanbarth felly rydym yn awyddus i adeiladu ar y cyfoeth o arbenigedd a phrofiad sydd gennym ar draws yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â'r fenter gyffrous hon i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir sydd ei angen arnynt i sicrhau cyflogaeth barhaus ym maes adeiladu."
Dywedodd Victoria Walsh, Rheolwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB ar gyfer De-ddwyrain Cymru: "Mae gan adeiladu rôl allweddol i'w chwarae wrth arwain adferiad economaidd Prydain ar ôl Covid, felly rydym wrth ein bodd y bydd agor yr academi newydd hon yn helpu pobl i ddilyn gyrfa werth chweil yn y sector. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghymru i fuddsoddi mewn adeiladu a sicrhau bod gan gyflogwyr a gweithwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i'r diwydiant ffynnu a chyrraedd ei dargedau uchelgeisiol."
Dywedodd Rheolwr Fframwaith SEWSCAP3 y Cyngor, Chris Mclellan: "Gydag Adeiladu yn parhau i weithredu fel sector allweddol yn yr adferiad ar ôl Covid, bydd y gallu i Gontractwyr gyflawni ymrwymiadau cytundebol gwerth cymdeithasol recriwtio a hyfforddi wedi'u targedu drwy'r ganolfan sy'n defnyddio safleoedd adeiladu byw yn newid y gêm go iawn."
Dywedodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: "Fel partner allweddol yn y prosiect pwysig hwn, bydd Wates Residential yn cynorthwyo ag ymweliadau safle, sefydlu, profiad gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth, ac mae cael academi Adeiladu Ar y Safle ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn rhoi cyfle euraid i ni recriwtio pobl yn uniongyrchol o'r gymuned gyfagos.
"Mae pawb yn haeddu lle gwych i fyw ynddo, ac mae angen pobl â sgiliau arnom i wneud i hyn ddigwydd. Dyna pam mae'r academi yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain mor bwysig, a hoffem annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn adeiladu i fanteisio ar y cyfleuster hwn i ddysgu mwy amdano, yn enwedig y rheini o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant."
Mae academi Adeiladu ar y Safle bellach yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer dysgwyr. Am fwy o wybodaeth e-bostiwch academiadeiladu@caerdydd.gov.uk, ffoniwch y Llinell Gyngor i Mewn i Waith ar 029 20 871 071 neu ewch i https://academiadeiladuarysafle.co.uk/