20.08.2021
Bydd practis milfeddygol newydd sy'n cynnig gofal fforddiadwy i gŵn yn agor yng Nghartref Cŵn Caerdydd.
Bydd Elusen The Rescue Hotel a chennad yr elusen, Sam Warburton, yn lansio'r Ganolfan Iechyd newydd yn swyddogol ddydd Sadwrn 21 Awst.
Mae Canolfan Iechyd The Rescue Hotel yn gweld Cartref Cŵn Caerdydd yn ymuno ag Elusen The Rescue Hotel, a'r milfeddyg Jamie Allen i ddarparu'r gwasanaeth newydd.
Dywedodd Jamie Allen, milfeddyg Canolfan Iechyd The Rescue Hotel: "Cafodd Canolfan Iechyd The Rescue Hotel ei chreu gyda'r awydd i wella iechyd a lles y cŵn llai ffodus yng Nghymru a'r anawsterau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu gyda mynediad i filfeddygfeydd prif ffrwd."
Nod y practis yw cadw prisiau'n fforddiadwy fel bod pobl yn cael cyfle i gael triniaeth ar gyfer eu cŵn na fyddent fel arall yn gallu eu cael, ac mae wedi gosod prisiau is na'r milfeddygfeydd prif ffrwd.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Rwy'n falch iawn o weld y fenter ar y cyd rhwng Cartref Cŵn Caerdydd, Elusen The Rescue Hotel a Jamie yn agor i drigolion Caerdydd.
"Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn perchnogaeth anifeiliaid anwes gan ein bod yn treulio mwy o amser gartref, felly mae'n bwysicach nag erioed bod perchnogion cŵn yn gallu defnyddio gwasanaethau fforddiadwy o ansawdd uchel i'w hanifeiliaid anwes."
Dywedodd Sam Warburton, cyn-gapten Cymru a'r Llewod Prydain a chennad yr elusen: "Cam enfawr arall a gymerwyd gan The Rescue Hotel a Chartref Cŵn Caerdydd i barhau i helpu nid yn unig y cŵn yn y Cartref, ond pob ci sydd angen help. Mae'r practis milfeddygol fforddiadwy yn enghraifft arall o'r gwaith anhygoel y mae'r elusen yn ei ddarparu. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi'r cynllun."
Lleolir Canolfan Iechyd The Rescue Hotel yng Nghartref Cŵn Caerdydd, Ystâd Ddiwydiannol Westpoint, Heol Penarth, Caerdydd, CF11 8JQ.