Bydd y Nadolig ym Mharc Bute yn arwain ymwelwyr ar daith arbennig o amgylch un o dirnodau mwyaf poblogaidd y brifddinas a thrwy'r llwybr goleuadau Nadolig mwyaf a welodd Cymru erioed.
O ddiwedd mis Tachwedd bydd y parc yn cynnig sioeau laser, rhodfa goed tylwyth teg hudol, pwll lilïau cyfareddol, cerfluniau tân neidiol, arddangosfeydd peli drych ysblennydd, coed enfawr wedi'u goleuo a llawer mwy.
Gan arwain at uchafbwynt ar ffurf gosodiad 'Môr Golau' arbennig gan Stiwdio Ithaca, sydd wedi creu arddangosfeydd trawiadol ar gyfer Gerddi Kew, Palas Blenheim a Gŵyl Glastonbury, bydd y digwyddiad yn dod â hwyl yr ŵyl fawr ei hangen i siopwyr Cymreig ac ymwelwyr fel ei gilydd y gaeaf hwn.
Dywedodd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden: "Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r hyrwyddwyr arobryn, From the Fields, i ddod â'r digwyddiad hudolus hwn i Gaerdydd.
"Mae ein trigolion a'n hymwelwyr wrth eu bodd â Pharc Bute a bydd yn wych ei weld yn cael ei oleuo yn y ffordd ysblennydd hon mewn pryd ar gyfer Nadolig 2021. Mae'r Nadolig ym Mharc Bute yn siŵr o helpu i ddod â hwyl yr ŵyl sydd mawr ei hangen i bawb sy'n ymweld a bydd yn ychwanegiad gwych at ein holl ddigwyddiadau Nadolig sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Caerdydd."
Mae'r Nadolig ym Mharc Bute yn disgwyl croesawu tua 95,000 o ymwelwyr i ddigwyddiad y Nadolig ym Mharc Bute dros gyfnod o bum wythnos. Yn ogystal ag arddangosfeydd golau ysblennydd, bydd y llwybr 1.4km hefyd yn cynnwys 'Gardd Dân' arbennig, ffair Nadolig draddodiadol, a stondinau bwyd a diod stryd lleol hefyd.
Bydd gan bobl yr opsiwn i ymweld yn ystod nifer o slotiau amser gwahanol sy'n cael eu cynnal bob nos o 25 Tachweddhyd at, ac yn cynnwys, Nos Galan. Bydd y digwyddiad yn gwbl hygyrch i'r rhai sydd â chadeiriau olwyn a phramiau, gyda'r nod o gynnig dathliad cynhwysol o'r Nadolig i'r teulu cyfan.
Bydd yr holl slotiau wedi’u hamseru yn cael eu cynnal yn yr awyr agored i sicrhau diogelwch pawb sy'n ymweld, gan olygu y bydd pob ymwelydd sy'n archebu tocynnau yn cael cyfle i roi rhodd Nadolig i'w teulu eleni, beth bynnag fydd yn digwydd.
I gael rhagor o wybodaeth
am y Nadolig ym Mharc Bute a sut i archebu tocynnau, ewch i https://christmasatbutepark.com/cymraeg