13/08/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys:Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol,Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU a Safon Uwch, nid oes angen apwyntiad ar gwsmeriaid bellach i ymweld â hyb neu lyfrgell i bori trwy'r llyfrau neu ddefnyddio'r cyfrifiaduron personol,nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.
Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol o Ddydd Sadwrn, 14 Awst
Bydd casgliadau gwastraff gardd yng Nghaerdydd yn newid o gasglu bob pythefnos i gasglu bob mis o Ddydd Sadwrn, 14 Awst, wrth i'r cyngor weithio i glirio ôl-groniad o wastraff gardd ar strydoedd y ddinas a achosir gan brinder gyrwyr HGV ledled y Deyrnas Gyfunol ac effeithiau pandemig COVID-19.
Bydd y Cyngor yn defnyddio gweddill mis Awst i gasglu unrhyw wastraff gardd sy'n weddill ar y stryd a gofynnir i breswylwyr adael eu gwastraff gardd allan i'w gasglu nes iddo gael ei godi. Byddwn yn ei gasglu cyn gynted ag y gallwn a diolchwn i chi am eich amynedd.
Bydd y casgliad gwastraff gardd nesaf yn cael ei gynnal ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, gyda chasgliad pellach bob mis drwy'r hydref. Bydd y gwasanaeth parhaus hwn yn dibynnu ar fod gyrwyr ar gael. Darperir rhagor o wybodaeth am ddyddiau casglu tua diwedd mis Awst.
Credwn y bydd symud i gasgliadau gardd misol yn gynharach yn rhoi'r cyfle gorau i ni gynnal casgliadau gwastraff statudol - hynny yw gwastraff cyffredinol, gwastraff bwyd, gwastraff hylendid a deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Mae'n rhaid i gasglu'r ffrydiau gwastraff hyn fod yn flaenoriaeth i ni wrth i ni ddelio â'r effeithiau y mae prinder gyrwyr a'r pandemig yn eu cael ar ein gweithlu.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27272.html
Ac am ein Holi ac Ateb ar y newidiadau, ewch ihttps://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27270.html
Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU a Safon Uwch
Dathlodd miloedd o bobl ifanc ledled Caerdydd eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr wythnos hon ar ôl blwyddyn hynod heriol arall.
Oherwydd pandemig Covid-19, cafodd llawer o ddisgyblion eu canlyniadau'n rhithwir.
Uchafbwyntiau Canlyniadau Arholiadau Ysgolion Caerdydd
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd, "Rydym wrth ein bodd yn gweld canlyniadau gwell byth yr wythnos hon i'n disgyblion hynod o weithgar.
"Rwy'n credu bod y sgiliau newydd a'r gwydnwch y mae ein myfyrwyr wedi'u datblygu yn wyneb y pandemig wedi bod o fudd iddynt a bydd yn parhau'n fuddiol iddynt ym mha beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud nesaf. Mae'r gwaith caled a'r ymroddiad y mae ein hathrawon a'n staff ysgol wedi'u dangos wrth ddatblygu asesiadau a sicrhau bod eu myfyrwyr wedi paratoi mor dda wedi creu argraff fawr arnaf. Mae ein disgyblion wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad i'w hastudiaethau yn yr ysgol ac wrth weithio o bell. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r canlyniadau hyn."
Dywedodd Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr Addysg, Caerdydd, "Rwy'n falch iawn o weld bod yr holl waith caled a'r ymrwymiad sydd wedi'u dangos gan athrawon a phobl ifanc wedi cael eu gwobrwyo yn wyneb yr hyn a oedd yn flwyddyn heriol dros ben. Roedd COVID yn gorfodi athrawon a myfyrwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymdopi â'r heriau a ddaeth yn sgil COVID. Mae'r holl ganlyniadau hyn yn seiliedig ar broses drylwyr o gymedroli mewnol, gwirio allanol a sicrhau ansawdd. Mae ein myfyrwyr, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau'r canlyniadau hyn, yn gallu edrych ymlaen yn awr at ddechrau ar gam nesaf eu bywydau. Dymunaf y gorau iddynt ym mha beth bynnag y maent yn dewis ei wneud."
Ceir rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch disgyblion Caerdyddymaa gellir dod o hyd i ganlyniadau TGAU disgyblion Caerdyddyma.
Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fyfyrwyr sy'n ystyried eu cam nesaf ar gael ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx
Galwch heibio i'ch llyfrgell a hyb lleol
Mae Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol ledled y ddinas yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl drwy'r drysau, heb fod angen apwyntiad.
O ddydd Llun, 16 Awst, ni fydd angen trefnu apwyntiad i ymweld â llyfrgelloedd a hybiau i bori'r silffoedd llyfrau, defnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus neu ddefnyddio gofod astudio yn yr adeilad a gall cwsmeriaid alw heibio pan fydd yn gyfleus iddynt.
Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod ar waith y tu mewn i'r adeiladau a bydd yn ofynnol i gwsmeriaid wisgo mwgwd, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Bydd nifer y bobl y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw un adeg yn cael ei monitro'n ofalus ac weithiau efallai y bydd angen i rai cwsmeriaid aros y tu allan am gyfnod byr i ganiatáu i gwsmeriaid sydd eisoes y tu mewn adael.
Mae sesiynau galw heibio cyngor ariannol, heb i gwsmeriaid fod angen apwyntiad, hefyd yn dychwelyd i lyfrgelloedd a hybiau yr wythnos nesaf ac mae Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor wedi'u paratoi i gynorthwyo preswylwyr gydag ystod o gymorth gan gynnwys cyngor ar gyllidebu, gwneud yn fawr o'ch incwm, hawlio budd-daliadau, grantiau neu ostyngiadau, cyngor ar ddyledion, cymorth ariannol i arbed tenantiaeth, cymorth gyda thlodi tanwydd a llawer mwy.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27276.html
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (2 Awst - 8 Awst)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
12 Awst 2021, 09:00
Achosion: 472
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 128.6 (Cymru: 144.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,939
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,346.1
Cyfran bositif: 9.6% (Cymru: 10.4% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Awst
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:692,483(Dos 1: 360,658 Dos 2: 331,825)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser