13/8/21
Mae Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol ledled y ddinas yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl drwy'r drysau, heb fod angen apwyntiad.
O ddydd Llun, 16 Awst, ni fydd angen trefnu apwyntiad i ymweld â llyfrgelloedd a hybiau i bori'r silffoedd llyfrau, defnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus neu ddefnyddio gofod astudio yn yr adeilad a gall cwsmeriaid alw heibio pan fydd yn gyfleus iddynt.
Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod ar waith y tu mewn i'r adeiladau a bydd yn ofynnol i gwsmeriaid wisgo mwgwd, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Bydd nifer y bobl y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw un adeg yn cael ei monitro'n ofalus ac weithiau efallai y bydd angen i rai cwsmeriaid aros y tu allan am gyfnod byr i ganiatáu i gwsmeriaid sydd eisoes y tu mewn adael.
Mae sesiynau galw heibio cyngor ariannol, heb i gwsmeriaid fod angen apwyntiad, hefyd yn dychwelyd i lyfrgelloedd a hybiau yr wythnos nesaf ac mae Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor wedi'u paratoi i gynorthwyo preswylwyr gydag ystod o gymorth gan gynnwys cyngor ar gyllidebu, gwneud yn fawr o'ch incwm, hawlio budd-daliadau, grantiau neu ostyngiadau, cyngor ar ddyledion, cymorth ariannol i arbed tenantiaeth, cymorth gyda thlodi tanwydd a llawer mwy.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwy'n falch iawn y gall cwsmeriaid, o ddydd Llun yr wythnos nesaf, alw heibio i'w llyfrgell neu hyb lleol unwaith eto i gasglu llyfr neu ddefnyddio'r cyfrifiaduron heb orfod trefnu apwyntiad.
"Bydd rhai mesurau yn dal i fod ar waith y tu mewn i'r adeiladau wrth i ni sicrhau bod cwsmeriaid a staff yn parhau i fod yn ddiogel rhag risgiau COVID-19 ac rydym yn ddiolchgar am amynedd pawb wrth gadw at y trefniadau hyn.
"Rwy'n croesawu'n arbennig ddychweliad ein sesiynau galw heibio i gael cyngor ariannol - mae angen ein cefnogaeth ar lawer o breswylwyr yn fwy nag erioed wrth iddynt frwydro gyda phryderon ariannol, problemau talu'r rhent, biliau ac yn y blaen. Rwy'n annog unrhyw un yn y sefyllfa honno i alw heibio i Hyb y Llyfrgell Ganolog, lle mae ein cynghorwyr arian arbenigol ar gael chwe diwrnod yr wythnos i helpu, neu i wirio pryd y bydd y tîm yn ymweld â'u hyb neu eu llyfrgell leol gyda'u sesiynau allgymorth wythnosol.
"Os ydych chi'n cael trafferth, gorau po gyntaf y gallwch ofyn am help, er mwyn i ni allu dechrau eich cefnogi ar unwaith."
Sesiynau galw heibio Cyngor Ariannol
Hyb y Llyfrgell Ganolog
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Gwener 9am - 6pm
Dydd Iau 10am - 7pm
Dydd Sadwrn 9am - 5.30pm
Cymorthfeydd allgymorth
Hyb Trelái a Chaerau - Dydd Llun 9am - 5pm
Hyb Grangetown - Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau 9am - 5pm
Hyb Rhydypennau - Dydd Llun 9am - 1pm
Hyb Ystum Taf - Dydd Mawrth 9am - 5pm
Hyb Llanrhymni - Dydd Mawrth 9am - 5pm
Hyb Llaneirwg - Dydd Mercher 10am - 6pm
Powerhouse - Dydd Iau 9am - 5pm
Hyb yr Eglwys Newydd - Dydd Gwener 9am - 1pm
Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd - Dydd Gwener 3.30pm - 6.30pm