Bydd y Cyngor yn defnyddio gweddill mis Awst i gasglu unrhyw wastraff gardd
sy'n weddill ar y stryd a gofynnir i breswylwyr adael eu gwastraff gardd allan
i'w gasglu nes iddo gael ei godi. Byddwn yn ei gasglu cyn gynted ag y gallwn a
diolchwn i chi am eich amynedd.
Bydd y casgliad gwastraff gardd nesaf yn cael ei gynnal ar ôl penwythnos
Gŵyl y Banc mis Awst, gyda chasgliad pellach bob mis drwy'r hydref. Bydd y gwasanaeth parhaus hwn yn dibynnu ar
fod gyrwyr ar gael. Darperir rhagor o wybodaeth am ddyddiau casglu tua diwedd
mis Awst.
Credwn y bydd symud i gasgliadau gardd misol yn gynharach yn rhoi'r cyfle
gorau i ni gynnal casgliadau gwastraff statudol – hynny yw gwastraff
cyffredinol, gwastraff bwyd, gwastraff hylendid a deunyddiau y gellir eu
hailgylchu. Mae'n rhaid i gasglu’r ffrydiau gwastraff hyn fod yn flaenoriaeth i
ni wrth i ni ddelio â'r effeithiau y mae prinder gyrwyr a'r pandemig yn eu cael
ar ein gweithlu.
Gall preswylwyr ein helpu i leddfu'r galw ar wasanaethau drwy fynd â'u
gwastraff gardd i'n canolfannau ailgylchu lle bo hynny'n bosibl. I helpu gyda hyn, o Ddydd Llun, 23 Awst, mae
Cyngor Caerdydd yn:
·
Cynyddu'r lwfans blynyddol
ar gyfer ymweliadau i 30 fesul aelwyd yn hytrach na 26 (bydd hyn yn cwmpasu'r 4
casgliad bob pythefnos a fyddai wedi'u trefnu hyd at fis Hydref);
·
Hefyd, mae'r slotiau sydd
ar gael bob dydd yn cael eu cynyddu o 400 i 570 (cynnydd o 42.5%);i
·
Bydd CAGCau ar agor yn
hwyrach - tan 6pm;
·
Rydym yn caniatáu archebion
ar y diwrnod; a
· Byddwch yn gallu ymweld hyd at 3 gwaith y dydd, fesul aelwyd (sydd wedi'i gyfyngu i 1 ymweliad y dydd ar hyn o bryd).
Bydd mynd â phob ffrwd wastraff, gan gynnwys gwastraff gardd, yn dal i
olygu y bydd yn ofynnol i breswylwyr archebu slot rhwng 8:30am a 6:00pm. Bydd
yn dal yn ofynnol bod â phrawf o gyfeiriad (e.e. trwydded yrru), sy'n dangos
eich bod yn byw yng Nghaerdydd, i gael mynediad.
Rydym am i chi wybod bod yn rhaid i’r cyngor gymryd y camau hyn er mwyn
sicrhau y gallwn barhau i gasglu ffrydiau gwastraff statudol – gwastraff
cyffredinol, gwastraff bwyd, gwastraff hylendid a deunyddiau y gellir eu
hailgylchu.
Fel llawer o awdurdodau lleol ledled y Deyrnas
Gyfunol, mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen i
gynnal gwasanaethau rheng flaen. Dwedodd 77% o gynghorau a ymatebodd i arolwg
diweddar gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE) eu bod
yn cael anawsterau wrth recriwtio gyrwyr.
Mae ein staff rheng flaen wedi gweithio'n barhaus drwy gydol y pandemig gydag ond ychydig o gyfle i gymryd gwyliau oherwydd effaith Covid-19. Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ledled gwledydd Prydain a thu hwnt, mae'n ddealladwy bod staff yn gofyn am amser i ffwrdd i ailwefru eu batris mewn 18 mis hynod heriol. Mae hyn ynghyd â materion yn ymwneud â hunanynysu, y pingdemig, salwch arferol a phrinder gyrwyr HGV wedi creu storm berffaith.
Mae pob
ymdrech yn cael ei wneud yng Nghaerdydd i recriwtio mwy o yrwyr HGV, fel y gall
casgliadau gwastraff gwyrdd ailddechrau cyn gynted â phosibl. Mae'r prinder
cyffredinol o yrwyr HGV wedi cyfyngu ar ein gallu i ddefnyddio gwasanaeth
cyflenwi gyrwyr adeg gwyliau drwy'r asiantaethau recriwtio ac mae llawer o
Awdurdodau Lleol eraill ledled y Deyrnas Gyfunol yn wynebu heriau tebyg.
Nid yw tua chwarter y gyrwyr sydd eu hangen arnom
bob dydd ar gael ar gyfer gwaith ar hyn o bryd ac, oherwydd prinder
cenedlaethol gyrwyr HGV, mae asiantaethau recriwtio yn ei chael yn anodd
darparu staff i gyflenwi dros salwch a gwyliau, fel y byddent yn ei wneud fel
arfer.
Ddechrau mis Awst ysgrifennodd y sector gwastraff
ac ailgylchu lythyr agored at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn mynegi
pryderon am brinder gyrwyr HGV hyfforddedig ar draws y sector gwastraff, gan
nodi bod y "Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd yn brin o ryw 100,000 o yrwyr
HGV" ar draws yr economi yn gyffredinol. Mae'r Gymdeithas Gwasanaethau
Amgylcheddol (ESA) yn adrodd cyfraddau swyddi gwag o 15% ar gyfartaledd ar
gyfer swyddi gyrru ar draws y sector gwastraff yn unig ac mae wedi galw ar y
llywodraeth i newid rheolau mewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau ar gyfer gyrwyr
HGV hyfforddedig nad ydynt wedi gallu gweithio yma ers Brexit.
Mae achosion COVID yng Nghymru yn parhau i fod yn
uchel, a chyda'r rhan fwyaf o gyfyngiadau bellach wedi'u codi, rhagwelir y
gallai ein gweithlu barhau i gael ei effeithio dros yr wythnosau a hyd yn oed y
misoedd nesaf. Er bod cael pigiad dwbl yn golygu nad oes angen hunanynysu os
byddwch yn dod i gysylltiad â pherson sydd â COVID, nid yw'n eich atal rhag dal
y feirws, ac os ydych yn dal COVID yna mae'n rhaid i chi ddal i hunanynysu am
ddeg diwrnod. Rydym yn cymryd camau nawr i sicrhau bod unrhyw effaith bosibl yn
cael ei lliniaru fel y gall ein casgliadau gwastraff statudol barhau i
weithredu.
Fel y gwyddoch, mae llawer o awdurdodau lleol
ledled y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi penderfynu atal gwasanaethau nad ydynt yn
rai hanfodol, fel casgliadau gwastraff gardd. Yma yng Nghaerdydd rydym wedi
gwneud ein gorau glas i gynnal y gwasanaeth gyhyd ag y gallem.
Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod
Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd: "Rydym yn cydnabod
yr anghyfleustra i breswylwyr ac rydym am i chi wybod y byddwn yn gwneud ein
gorau i sicrhau bod y gwasanaeth yn dychwelyd, er efallai ar raddfa lai, cyn
gynted ag y gallwn. Os oes gan breswylwyr gar, a'u bod yn gallu dod â'u
gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu, bydd hyn yn ein helpu i glirio'r
ôl-groniad. I'r rhai nad ydynt yn gallu
gyrru, gadewch eich gwastraff gardd a gyflwynir ar ymyl y ffordd yr wythnos hon
a byddwn yn ei gasglu cyn gynted â phosibl. Yn wahanol i lawer o gynghorau
eraill, mae Caerdydd yn casglu gwastraff gardd am ddim. Mae'n wasanaeth dewisol gennym sydd, yn
anffodus, yn rhaid i ni ei hepgor ar adegau fel hyn pan nad yw adnoddau ar
gael. Mae'r prinder gyrwyr cyffredinol, y mae sefydliadau masnach yn ei feio ar
Brexit, yn creu problemau mawr i ni, ond mae ein criwiau wedi bod yn gwneud eu
gorau ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth."
Mae Cwestiwn ac Ateb ar y newidiadau dros dro i
gasgliadau gwastraff gardd ar gael i'w gweld yma https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27270.html