Back
Holi ac Ateb: Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol o Ddydd Sadwrn, 14 Awst
Pam mae'r cyngor yn newid casgliadau gwastraff gardd i rai misol ar fyr rybudd fel hyn?

Mae'r cyngor wedi parhau i gasglu gwastraff gardd cyhyd ag y bo modd o ystyried y staff a'r adnoddau sydd ar gael i ni.

Gyda materion parhaus prinder gyrwyr ac absenoldeb staff oherwydd salwch a gwyliau, yn dilyn 18 mis hynod heriol,bellach mae'n rhaid i ni flaenoriaethu casglu gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol ac ailgylchu sy'n ofyniad statudol.

Pan ddywedwch fod casgliadau gwastraff gardd yn wasanaeth dewisol, a bod mathau eraill o wastraff yn statudol, beth mae hynny'n ei olygu?

Mae gwasanaeth statudol yn golygu bod yn rhaid i'r cyngor, yn ôl y gyfraith, ddarparu gwasanaeth i gasglu'r gwastraff hwn. Mae gwasanaeth dewisol yn golygu nad yw'n ofynnol yn gyfreithiol i'r cyngor gynnal y gwasanaeth casglu, ond mae'n dewis gwneud hynny.Yn yr achos hwn fel y gallwn ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.

Beth gallaf ei wneud i helpu?

Os yw preswylwyr yn gallu dod â'u gwastraff gardd naill ai i Ffordd Lamby neu BessemerClose, bydd hyn yn ein helpu i glirio'r ôl-groniad.  

I helpu gyda hyn, o Ddydd Llun, 23 Awst, mae Cyngor Caerdydd yn:

·       Cynyddu'r lwfans blynyddol ar gyfer ymweliadau i 30 fesul aelwyd yn hytrach na 26

·       Cynyddu'r slotiau sydd ar gael y dydd o 400 i 570 (i fyny 42.5%);

·       Caniatáu i aelwydydd archebu lle, ac ymweld ar yr un diwrnod lle mae slotiau ar gael

·       Caniatáu i aelwydydd ymweld hyd at 3 gwaith y dydd (mae hyn wedi'i gyfyngu i 1 ar hyn o bryd) a:

·       Chynyddu ein horiau agor i 6pm, gyda'r slot olaf ar gyfer sesiynau gollwng am 5.30pm (4pm yw hwn ar hyn o bryd)

 

Dim ond os ydych yn ymweld mewn car y bydd y newidiadau newydd hyn yn berthnasol.

Bydd dal angen i chi wneud apwyntiad i ymweld â chanolfannau ailgylchu yn www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchuBydd angen i chi ddod â chadarnhad o’ch archeb, gall hwn fod yn fersiwn ddigidol, ynghyd â phrawf o breswyliaeth Caerdydd e.e. eich trwydded yrru.

A all preswylwyr dalu cwmni i gael gwared ar eu gwastraff gardd yn lle hynny, tra bod y gwasanaeth wedi'i atal?

Gall preswylwyr dalu cwmni i waredu eu gwastraff gwyrdd os ydynt yn dewis, ond rhaid i breswylwyr sicrhau eu bod yn defnyddio cwmni ag enw da sydd â thrwydded trosglwyddo gwastraff, a darparu nodyn trosglwyddo gwastraff i roi manylion y cyfleuster trwyddedig lle bydd y gwastraff yn cael ei gludo iddo.

Os darganfyddir bod unrhyw wastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, a gellir ei olrhain yn ôl i'w ffynhonnell, gellid erlyn y preswylydd am y drosedd. Os na all preswylwyr mynd â'u gwastraff gardd i'r canolfannau ailgylchu, gofynnwn iddynt storio eu gwastraff gardd o fewn ffiniau eu heiddo nes i'r casgliadau gwastraff gardd ailddechrau.

A yw'r problemau presennol yn cael eu hachosi oherwydd y newid i gasgliadau gwastraff, hynny yw symud i wythnos 4 diwrnod?

 Nac ydynt – nid yw hyn yn gysylltiedig â'r rowndiau casglu newydd. Y rheswm am hyn yw prinder gyrwyr HGV sy'n effeithio ar y DU gyfan.

Pam nad oes gan y cyngor gynllun wrth gefn? Onid oes gennych unrhyw staff sydd â thrwydded HGV mewn meysydd eraill y gellir eu hadleoli i helpu gyda'r casgliadau?

Mae gan y cyngor gynllun wrth gefn ar waith, gyda rhestr o staff sydd â thrwydded HGV dosbarth 2 ddilys. Mae'r aelodau staff hyn yn cael eu hadleoli i helpu i glirio'r ôl-groniad o wastraff gardd yn ystod mis Awst, ond mae llawer yn defnyddio eu trwydded ar hyn o bryd yn eu rôl bresennol yn gweithio i'r cyngor. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i feithrin gwydnwch drwy hyfforddi a recriwtio staff ychwanegol. Yn anffodus, o ganlyniad i Brexit mae prinder cenedlaethol o yrwyr HGV, gan roi pwysau digynsail ar bob cludwr yn ogystal ag ar yr holl awdurdodau casglu gwastraff.

Beth ydym ni i fod i'w wneud â'n gwastraff gardd os nad oes gennym gar i gyrraedd canolfan ailgylchu?

Gofynnwn i breswylwyr storio eu gwastraff gardd o fewn ffiniau eu heiddo. Gallai preswylwyr â gerddi mwy ystyried compostio eu gwastraff gardd gartref.

Beth am yr holl ddail sy’n cwympo yn yr hydref? Beth dylen ni ei wneud gyda’r gwastraff hwn?

Bydd y cyngor yn ceisio ailddechrau casglu gwastraff gardd o fis Medi dan gyfundrefn y gaeaf, felly gellir rhoi dail sydd wedi cwympo ym miniau gwyrdd preswylwyr a chânt eu casglu dros y gaeaf. Bydd manylion pellach yn dilyn unwaith y byddant ar gael.