Back
Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU

12.08.2021

Mae disgyblion blwyddyn 11 yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw gyda dros draean o'r graddau (34.5%) yn A*-A.

Ar ôl blwyddyn heriol arall oherwydd pandemig Covid-19, cafodd llawer o ddisgyblion eu canlyniadau'n rhithwir.

Ym mhrifddinas Cymru bu cynnydd o 2.8 pwynt canran mewn graddau A*-A yn 2021. Mae 77.7% o'r graddau yn A*-C a 98.3% yn A*-G. Mae'r rhain ar gyfer canlyniadau TGAU CBAC.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd, "Rydym wrth ein bodd yn gweld canlyniadau gwell byth yr wythnos hon i'n disgyblion hynod o weithgar."Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir bwysig ym mywydau pobl ifanc, yn nodi dechrau pennod newydd yn eu bywydau, boed nhw'n mynd ymlaen i addysg ôl-16, i gyflogaeth neu i raglenni hyfforddi.

"Rwy'n credu bod y sgiliau newydd a'r gwydnwch y mae ein myfyrwyr wedi'u datblygu yn wyneb y pandemig wedi bod o fudd iddynt a bydd yn parhau'n fuddiol iddynt ym mha beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud nesaf. Mae'r gwaith caled a'r ymroddiad y mae ein hathrawon a'n staff ysgol wedi'u dangos wrth ddatblygu asesiadau a sicrhau bod eu myfyrwyr wedi paratoi mor dda wedi creu argraff fawr arnaf. Mae ein disgyblion wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad i'w hastudiaethau yn yr ysgol ac wrth weithio o bell. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r canlyniadau hyn."

Dywedodd Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr Addysg, Caerdydd, "Mae'r canlyniadau hyn wir yn adlewyrchu'r holl waith caled ac ymrwymiad a ddangoswyd gan athrawon a phobl ifanc ar ôl blwyddyn hynod heriol arall. Roedd COVID yn gorfodi athrawon a myfyrwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymdopi â'r heriau a ddaeth yn sgil COVID. Mae'r holl ganlyniadau hyn yn seiliedig ar broses drylwyr o gymedroli mewnol, gwirio allanol a sicrhau ansawdd. Mae ein myfyrwyr, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau'r canlyniadau hyn, yn gallu edrych ymlaen yn awr at ddechrau ar gam nesaf eu bywydau. Dymunaf y gorau iddynt ym mha beth bynnag y maent yn dewis ei wneud."

Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fyfyrwyr sy'n ystyried eu cam nesaf ar gael yma   https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx