Back
Gŵyl Caerdydd Sy’n Dda I Blant Yn Gadael Etifeddiaeth O Wenu


11/8/21
Mae miloedd o blant a phobl ifanc Caerdydd wedi bod yn gwenu o glust i glust wrth i ŵyl ganol dinas Gwên o Haf Caerdydd ddirwyn i ben, gan baratoi'r ffordd ar gyfer hyd yn oed mwy o hwyl sy'n dda i blant yr haf hwn.

 

Mae'r fiesta teuluol tair wythnos ar lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd, a ddenodd mwy nag 8,500 o ymwelwyr, wedi bod yn rhan annatod o raglen ddigwyddiadau haf y cynllun dinas sy'n dda i blant ar hyd a lled Caerdydd, gan ddarparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc Caerdydd yn seiliedig ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau creadigol, chwaraeon ac antur, chwarae a hwyl i'r teulu.

 

Daeth tua 22 o bartneriaid swyddogol ynghyd i ddarparu ystod eang o weithgareddau, o roi cynnig ar gamp newydd yn y flwyddyn Olympaidd i wylio arddangosiadau ar lawnt drwy garedigrwydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Roedd y safle hefyd yn cynnal sgiliau syrcas, twrnameintiau pêl-droed bwrdd, arddangosfeydd BMX, gweithgareddau celf a chrefft, perfformiadau theatr a cherddoriaeth fyw a llawer mwy!

 

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, nid yw Gwên o Haf wedi dod i ben eto a bydd yn parhau i ddarparu rhaglen lawn o weithgareddau mewn cymunedau ledled y ddinas am weddill y gwyliau ysgol chwe wythnos. Gellir archebu'r gweithgareddau cymunedol am ddim drwy fynd i https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Wrth ddatblygu Gwên o Haf, ein nod oedd sicrhau ein bod yn rhoi rhywbeth i bob plentyn a pherson ifanc wenu amdano ar ôl yr anawsterau a'r heriau a wynebwyd yn ystod y pandemig.

 

"Ni allem fod wedi cyflawni hyn heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru a chefnogaeth ac ymrwymiad ein partneriaid ledled y ddinas sydd wedi darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwych sy'n canolbwyntio ar les ac ail-ymgysylltu, gan annog plant a phobl ifanc i chwarae, symud a mwynhau eu hunain gyda ffrindiau a theulu."

 

Mae Gwên o Haf yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd ac mae'n cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae gweledigaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant, yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas a byddant yn rhan annatod o ddull y ddinas o adfer ac adnewyddu o effaith y pandemig.

"Mae ein cynllun adfer yn cynnwys cynlluniau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn 'Lle Gwych i Gael eich Magu' lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu."

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF y DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

O ganlyniad, mae UNICEF y DU wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant ddechrau'r flwyddyn nesaf.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch i https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/