Back
Ymgynghoriad ar y Map Teithio Llesol drafft i ddechrau ar 9 Awst

09/08/21


Mae Caerdydd am gynyddu nifer y bobl sy'n cerdded neu'n beicio i'r gwaith o 31% i 43% erbyn 2030.

Er mwyn cyflawni hyn, trafododd a chymeradwyodd Cabinet Cyngor Caerdydd, yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, y dylai'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft fynd i ymgynghoriad cyhoeddus a bydd proses 12 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd yn dechrau heddiw (9 Awst) ac yn gorffen ar 31 Hydref.

Bydd yr ymgynghoriad yn defnyddio llwyfan cyffredin Llywodraeth Cymru i ymgynghori â'r cyhoedd -https://cardiffatnm.commonplace.is/cy-GB- fel y gall preswylwyr weld y cynigion a rhoi eu barn trwy holiadur ar-lein.

Cafodd y fersiwn newydd, wedi'i diweddaru o deithio llesol yn y ddinas ei datgelu'n gynharach yn y mis ac mae'n cynnwys:

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am rwydwaith o lwybrau lle byddai modd creu llwybrau beicio ar wahân;
  • Gwelliannau wedi'u cynllunio i Daith Taf, Llwybr Elái a Llwybr Rhymni
  • Sicrhau bod rhestr flaenoriaeth y cyngor o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd yn cydweddu â chynlluniau gwella i gerddwyr a llwybrau teithio llesol;
  • Cysylltu 130 o ysgolion y ddinas â'r rhwydwaith teithio llesol; 
  • Parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd i nodi llwybrau teithio llesol newydd yn y ddinas. 

Mae llunio gweledigaeth 15 mlynedd yn ofyniad statudol i Awdurdodau Lleol o dan y Ddeddf Teithio Llesol, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ledled Cymru, ac i benderfynu i le y dyrennir cyllid y llywodraeth. Mae'r cynllun yn cynnwys rhestr o 280 o gynlluniau seilwaith a fydd, os cytunir arnynt, yn sail i gynlluniau o flwyddyn i flwyddyn ledled y ddinas.

Yn dilyn y broses ymgynghori a'r adborth gan y cyhoedd, bydd y map newydd wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobl roi eu barn ar y cynigion ac awgrymu syniadau ychwanegol y gellid eu hychwanegu at y rhestr derfynol o gynlluniau a gyflwynir i Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth - gan gynnwys Map Drafft Rhwydwaith Teithio Llesol Caerdydd - ewch i: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieIssueDetails.aspx?IId=27992&PlanId=0&Dewis=3&LLL=1