09.08.2021
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o Adran Addysg Cyngor Caerdydd ac yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd.
Yn ystod y pandemig, maent wedi parhau i gynnig rhai o'u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar rai pobl ifanc.
Roedd Nikita, 13, yn dioddef o orbryder ac yn cael trafferth cysylltu â'r ysgol, felly dechreuodd Mentor Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd fynd â hi am dro lles a dosbarthu parsel bwyd bob wythnos. Yn raddol, fe wnaethon nhw adeiladu perthynas gref.
Datblygodd Nikita ddigon o hyder i wirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd, wedi'i symbylu gan ei chariad at anifeiliaid.
Drwy gydol y cyfnod clo, buont yn gweithio gyda'i gilydd drwy heriau coginio ar-lein a theithiau cerdded llesiant gan gadw pellter cymdeithasol. Ar ôl i'r rheolau gael eu llacio, penderfynodd y bobl ifanc oedd yn defnyddio'r gwasanaeth eu bod am gael grŵp ieuenctid llesiant gan eu bod wedi bod yn siarad ar-lein ond nad oeddent erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb.
Dechreuodd y grŵp gyfarfod ar ddydd Mercher, gan fynd ar deithiau cerdded natur, coginio a gwneud gwaith yn gysylltiedig â chwrs datblygiad proffesiynol (AQA) yng nghanolfan Gabalfa. Mae'r ganolfan yn cynnal grŵp yr oedd gan Nikita ddiddordeb yn ei fynychu ac - rydym yn falch o fedru dweud - cynigiwyd lle iddi ac mae wedi cyflawni cofnod presenoldeb o 100%.
Meddai ei Mentor Ieuenctid: "Mae Nikita wedi codi lefelau presenoldeb, ymddygiad a dyheadau.
Mae hi wedi gwneud ffrindiau ac wedi magu ei hyder, mae ganddi le mewn ysgol sy'n addas i'w hanghenion ac mae'n llawn cyffro i ddechrau ym mis Medi.
Mae hi wedi adeiladu llawer o wytnwch ac wedi dysgu sut i reoli ei theimladau. Rydyn ni wir yn falch o'i chyflawniadau."
Meddai Nikita, "Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rwyf wedi'i chael ac rwy'n teimlo'n gadarnhaol iawn ac wedi cyffroi am y dyfodol."
Dymunwn bob lwc i Nikita ar gyfer y tymor newydd.
Diolch yn fawr iawn i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd am bopeth rydych yn ei wneud i gefnogi pobl ifanc ein dinas.
gGall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy ymweld ag un o'r gwefannau canlynol:
👉https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol
👉https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles/
👉https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/
👉http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/
👉www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf
Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant
Gobeithiwn y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac yn eich ysbrydoli chi.