Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 9/08/21


6/08/21 - Diweddariad ar gasgliadau gwastraff gardd

Mae'r Cyngor, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled y DU, yn parhau i wynebu heriau wrth gasglu gwastraff gardd oherwydd diffyg staff, yn enwedig gyrwyr cerbydau nwyddau trwm Dosbarth 2.

Mae ein criwiau wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y pandemig gydag ychydig iawn o gyfle i gymryd unrhyw wyliau blynyddol.
 Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio yn y DU ac wrth i'r angen i hunanynysu wrth ddychwelyd o wyliau tramor leihau, mae'r criwiau'n chwilio am y cyfle i gymryd seibiant. Mae'r prinder cenedlaethol o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y DU wedi golygu nad ydym wedi gallu ymdrin ag absenoldebau salwch gyrwyr gyda staff asiantaeth fel y byddem yn ei wneud fel arfer, felly rydym yn gweithredu gyda gweithlu llai o lawer ar hyn o bryd.


O ganlyniad, mae cynnal gwasanaeth rheng flaen llawn yn parhau i fod yn anodd iawn ac, oherwydd hyn, rydym yn gorfod blaenoriaethu casgliadau gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol a deunyddiau y gellir eu hailgylchu dros wastraff gardd ar hyn o bryd.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27231.html

  

6/08/21 - #DyfodolCadarnhaolCDYDD - Gyrru ymlaen i rowndiau terfynol F1 y DU!

Llongyfarchiadau i dri thîm o Ysgol Bro Edern a rasiodd i'r llinell derfyn a chyrraedd ffeinalF1 Ysgolion y DU!

Mae F1 Ysgolion yn gystadleuaeth llemae myfyrwyr yn ffurfio timau F1 ac yn dylunio, gwneud, profi ac yna'n rasio ceir F1 mini mewn Ysgolion. O lwyddo, bydd timau'n cystadlu'n genedlaethol, gyda'r timau gorau yn ennill lle yn Rowndiau Terfynol y Byd F1 Ysgolion. 

Yn cystadlu yn rowndiau terfynol Rhanbarthol Cymru, aeth pob un o'r tri thîm -Hypernova, Imperium ac Astra - dros y llinell derfyn yn y safle cyntaf neu'r ail safle gan gymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cenedlaethol y DU!

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27228.html

 

 5/08/21 - Beth sydd ar y fwydlen heno, Gaerdydd? Dosbarthu 20,000 o Brydau Teulu fel rhan o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol

 

Bydd cynllun i annog teuluoedd i baratoi, coginio a bwyta prydau gyda'i gilydd yn gweld mwy nag 20,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Bydd mwy na 5,000 o fagiau bwyd i deuluoedd, sy'n cynnwys cynhwysion a ryseitiau cam wrth gam wedi'u datblygu gan ddeietegwyr o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cael eu dosbarthu i deuluoedd ledled y ddinas.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd gyda chymorth amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, gan helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27222.html

 

 

2/08/21 - #DyfodolCadarnhaolCdydd - Arwyr Sbwriel Coed Glas

 

Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi leihau a'r tymheredd godi, mae llawer ohonom yn heidio i barciau a mannau awyr agored Caerdydd i fwynhau'r haul a threulio amser yn yr awyr agored gydag anwyliaid.

Fodd bynnag, mae delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos rhai trigolion ac ymwelwyr yn gadael pentyrrau o sbwriel ar eu holau wedi treulio diwrnod yn yr haul.

Wedi'u siomi'n fawr gan y lluniau, penderfynodd dau o'n disgyblion cynradd fynd i'r afael â'r broblem hon eu hunain.

Dyluniodd disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Coed Glas, Kevin Feng ac Oliver Paget, yn 10 oed ill dau, boster sy'n annog pobl i roi'r gorau i lygru eu hamgylchedd lleol ac yn hytrach i ofalu am y lle y maent yn byw ynddo.

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27200.html