Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 6 Awst

Diweddariad Cyngor Caerdydd: 6 Awst

 

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Symud iLefel Rhybudd 0,Casgliadau gwastraff gardd, Dosbarthu 20,000 o Brydau Teulu fel rhan o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol,nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Symud iLefel Rhybudd 0

 

 

Mae'r rhan fwyaf o'r rheolau Covid sy'n weddill yng Nghymru - gan gynnwys cyfreithiau ymbellhau cymdeithasol ar bwy all gyfarfod dan do - yn cael eu codi bore yfory, dydd Sadwrn, 7 Awst.

Fodd bynnag, bydd rheolau yng Nghymru yn parhau'n llymach nag yn Lloegr, gyda masgiau wyneb yn dal i fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn llawer o fannau cyhoeddus.

Dan y newidiadau, sy'n dod i rym o 6am ddydd Sadwrn:

  • Bydd cyfreithiau sy'n gofyn am ymbellhau cymdeithasol dan do, gan gynnwys mewn gweithleoedd, yn dod i ben, fodd bynnag, bydd yn rhaid i fusnesau roi eu mesurau eu hunain ar waith i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel, a all barhau i gynnwys ymbellhau cymdeithasol.
  • Ni fydd cyfyngiad ar y niferoedd sy'n gallu cwrdd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi, mannau cyhoeddus a digwyddiadau;
  • Gall unrhyw fusnesau sydd ar gau o hyd, megis clybiau nos, ailagor;

Ymhlith y rheolau sy'n weddill mae gofynion cyfreithiol i wisgo masgiau wyneb, yn ogystal â chyngor ar osgoi teithio rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Lefel Rhybudd 0 yn ei olygu i chi cliciwch yma

https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-cwestiynau-cyffredin?_ga=2.131432648.696801178.1628260092-1961633043.1619015427

 

Diweddariad ar gasgliadau gwastraff gardd - Awst 6

 

 

Mae'r Cyngor, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled y DU, yn parhau i wynebu heriau wrth gasglu gwastraff gardd oherwydd diffyg staff, yn enwedig gyrwyr cerbydau nwyddau trwm Dosbarth 2. Mae ein criwiau wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y pandemig gydag ychydig iawn o gyfle i gymryd unrhyw wyliau blynyddol.  Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio yn y DU ac wrth i'r angen i hunanynysu wrth ddychwelyd o wyliau tramor leihau, mae'r criwiau'n chwilio am y cyfle i gymryd seibiant.  Mae'r prinder cenedlaethol o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y DU wedi golygu nad ydym wedi gallu ymdrin ag absenoldebau salwch gyrwyr gyda staff asiantaeth fel y byddem yn ei wneud fel arfer, felly rydym yn gweithredu gyda gweithlu llai o lawer ar hyn o bryd.

O ganlyniad, mae cynnal gwasanaeth rheng flaen llawn yn parhau i fod yn anodd iawn ac, oherwydd hyn, rydym yn gorfod blaenoriaethu casgliadau gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol a deunyddiau y gellir eu hailgylchu dros wastraff gardd ar hyn o bryd.

Rydym yn deall yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi i rai preswylwyr, ond hoffem i chi wybod nad ydym wedi'ch anghofio. Er nad yw casglu gwastraff gardd yn wasanaeth hanfodol, a bod cynghorau eraill sy'n cael yr un anawsterau wedi atal y gwasanaeth hwn, yma yng Nghaerdydd rydym yn gweithio ar ddiwrnodau ychwanegol i gasglu eich gwastraff gardd. Yn anffodus, bydd rhywfaint o oedi a allai fod yn hirach nag y byddem wedi dymuno.

 

Mae ein canolfannau ailgylchu yn Bessemer Road a Ffordd Lamby yn gwbl weithredol a byddant yn derbyn gwastraff gardd.

"Rydym yn ymwybodol o'r holl gasgliadau gardd hyn sydd wedi'u methu a byddwn yn casglu eich gwastraff gardd cyn gynted ag y gallwn.

"Gofynnwn i breswylwyr adael eu gwastraff gardd ar ymyl y ffordd nes iddo gael ei gasglu a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Beth sydd ar y fwydlen heno, Gaerdydd?Dosbarthu 20,000 o Brydau Teulu fel rhan o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol

 

 

Bydd cynllun i annog teuluoedd i baratoi, coginio a bwyta prydau gyda'i gilydd yn gweld mwy nag 20,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Bydd mwy na 5,000 o fagiau bwyd i deuluoedd, sy'n cynnwys cynhwysion a ryseitiau cam wrth gam wedi'u datblygu gan ddeietegwyr o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cael eu dosbarthu i deuluoedd ledled y ddinas.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd gyda chymorth amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, gan helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae llu o fanteision i fwyta prydau cartref gyda'n gilydd fel teulu, a cyn y pandemig byddai'r teuluoedd hynny â phlant sy'n mynd i sesiynau RhCGY yn cael eu gwahodd i'r ysgol i fwyta cinio gyda'i gilydd.

"Mae'r cynllun bagiau bwyd i deuluoedd wedi'i ddatblygu fel ffordd amgen o hyrwyddo amser bwyd i'r teulu a helpu plant i ddeall mwy am fwyd, coginio a maeth."

Eleni, mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi'i wneud yn bosib ymestyn y rhaglen i gynnwys cymunedau y tu hwnt i'r ardaloedd a dargedir ac a ariennir yn draddodiadol gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i dimau RhCGY a phartneriaid ymroddedig Caerdydd, helpu i sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27222.html

 

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Gorffennaf - 1 Awst)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

5 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 441

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 120.2 (Cymru: 133.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,810

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,311

Cyfran bositif: 9.2% (Cymru: 9.6% cyfran bositif)

 

 

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 5 Awst

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 687,587 (Dos 1: 358,260 Dos 2:  329,327)

 

 

  • 80 a throsodd: 20,735 / 94.6% (Dos 1) 20,359 / 92.8% (Dos 2)
  • 75-79: 15,091 / 96.3% (Dos 1) 14,871 / 94.9% (Dos 2)
  • 70-74: 21,462 / 95.6% (Dos 1) 21,282 / 94.8% (Dos 2)
  • 65-69: 21,957 / 94.1% (Dos 1) 21,640 / 92.7% (Dos 2)
  • 60-64: 26,016 / 92.2% (Dos 1) 25,591 / 90.7% (Dos 2)
  • 55-59: 29,324 / 90% (Dos 1) 28,679 / 88.1% (Dos 2)
  • 50-54: 28,934 / 87.6% (Dos 1) 28,091 / 85% (Dos 2)
  • 40-49: 54,844 / 80.9% (Dos 1) 52,212 / 77.1% (Dos 2)
  • 30-39: 59,254 / 74% (Dos 1) 53,729 / 67.1% (Dos 2)
  • 18-29: 77,266 / 74.8% (Dos 1) 63,495 / 61.5% (Dos 2)

 

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,905 / 98.5% (Dos 1) 1,876 / 97% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,304 / 93.9% (Dos 1) 11,050 / 91.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,028 / 89.5% (Dos 1) 43,999 / 85.6% (Dos 2)

 

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser