Back
Diweddariad ar gasgliadau gwastraff gardd - Awst 6

Diweddariad ar gasgliadau gwastraff gardd - Awst 6

Mae'r Cyngor, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled y DU, yn parhau i wynebu heriau wrth gasglu gwastraff gardd oherwydd diffyg staff, yn enwedig gyrwyr cerbydau nwyddau trwm Dosbarth 2. Mae ein criwiau wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y pandemig gydag ychydig iawn o gyfle i gymryd unrhyw wyliau blynyddol. Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio yn y DU ac wrth i'r angen i hunanynysu wrth ddychwelyd o wyliau tramor leihau, mae'r criwiau'n chwilio am y cyfle i gymryd seibiant. Mae'r prinder cenedlaethol o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y DU wedi golygu nad ydym wedi gallu ymdrin ag absenoldebau salwch gyrwyr gyda staff asiantaeth fel y byddem yn ei wneud fel arfer, felly rydym yn gweithredu gyda gweithlu llai o lawer ar hyn o bryd.

O ganlyniad, mae cynnal gwasanaeth rheng flaen llawn yn parhau i fod yn anodd iawn ac, oherwydd hyn, rydym yn gorfod blaenoriaethu casgliadau gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol a deunyddiau y gellir eu hailgylchu dros wastraff gardd ar hyn o bryd.

Rydym yn deall yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi i rai preswylwyr, ond hoffem i chi wybod nad ydym wedi'ch anghofio. Er nad yw casglu gwastraff gardd yn wasanaeth hanfodol, a bod cynghorau eraill sy'n cael yr un anawsterau wedi atal y gwasanaeth hwn, yma yng Nghaerdydd rydym yn gweithio ar ddiwrnodau ychwanegol i gasglu eich gwastraff gardd. Yn anffodus, bydd rhywfaint o oedi a allai fod yn hirach nag y byddem wedi dymuno.

 

Mae ein canolfannau ailgylchu yn Bessemer Road a Ffordd Lamby yn gwbl weithredol a byddant yn derbyn gwastraff gardd.

"Rydym yn ymwybodol o'r holl gasgliadau gardd hyn sydd wedi'u methu a byddwn yn casglu eich gwastraff gardd cyn gynted ag y gallwn.

"Gofynnwn i breswylwyr adael eu gwastraff gardd ar ymyl y ffordd nes iddo gael ei gasglu a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd yn ystod y cyfnod heriol hwn."