Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli – 02/08/21

31/07/21

26/07/21 -#DyfodolCadarnhaolCDYDD - Gwobr i Ysgol Gynradd Herbert Thompson

 

Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Herbert Thompson, a anrhydeddwyd gyda Gwobr Ysgol Ragoriaeth Thrive.Mae'r wobr hon yn cydnabod ysgolion eithriadol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu dysgwyr a'r gymuned ehangach drwy roi lles emosiynol yn uchel ar yr agenda. 

Darllenwch fwy yma:#DyfodolCadarnhaolCDYDD - Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn cael gwobr am roi iechyd meddwl a lles plant wrth wraidd yr (newyddioncaerdydd.co.uk)


26/07/21 -Yn Fyw ac yn Rhydd: Pedair noson o gerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi canolfannau llawr gwlad

 

Bydd pedair noson o gerddoriaeth fyw, wedi'u curadu gan ganolfannau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd, yn cael eu cynnal yng Nghastell Caerdydd dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, fel rhan o gynllun gan Gyngor Caerdydd a ddatblygwyd gyda Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, i gefnogi cerddoriaeth fyw a rhoi diwylliant wrth wraidd adferiad y ddinas o Covid-19.

Darllenwch fwy yma:Yn Fyw ac yn Rhydd: Pedair noson o gerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd i gefnogi canolfannau llawr gwlad (newyddioncaerdydd.co.uk)

 

28/07/21 -Adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed i gynorthwyo Caerdydd yn ystod COVID

Mae dosbarthu mwy na 40 miliwn o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ledled Caerdydd, dosbarthu 2,295 o becynnau bwyd i bobl yn cysgodi rhag COVID-19 yn y ddinas, yn ddim ond ychydig o ffigyrau anhygoel Gwasanaethau Cymdeithasol a ddatgelwyd mewn adroddiad i Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:Adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed i gynorthwyo Caerdydd yn ystod COVID (newyddioncaerdydd.co.uk)

 

28/07/21 - Stryd Tudor yn stryd unffordd o 2 Awst


Er mwyn sicrhau y bydd cynllun trafnidiaeth ac adfywio gwerth miliynau o bunnau yn Stryd Tudor yn cael ei gwblhau mewn pryd ac o fewn y gyllideb, bydd y stryd yn cael ei gwneud yn stryd unffordd am 11 mis er mwyn gwneud gwaith hanfodol arni.

Mae contractwr y cyngor - Knights Brown - eisoes ar y safle ac wedi ymweld â siopau a busnesau ar Stryd Tudor ac yn yr ardal gyfagos i roi gwybod iddynt am y trefniadau dros dro er mwyn sicrhau y gellir bwrw ymlaen â gwaith cloddio ar y stryd i gyflwyno'r gwelliannau.

 

Darllenwch fwy yma:Stryd Tudor yn stryd unffordd o 2 Awst (newyddioncaerdydd.co.uk)

 

30/07/21 -#DyfodolCadarnhaolCdydd - Tyler, 16, ar i fyny diolch i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o Adran Addysg Cyngor Caerdydd ac yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. 

Yn ystod y pandemig, maent wedi parhau i gynnig rhai o'u gwasanaethau ar adeg pan oedd eu hangen fwyaf ar bobl ifanc. 

Darllenwch fwy yma:#DyfodolCadarnhaolCdydd - Tyler, 16, ar i fyny diolch i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd (newyddioncaerdydd.co.uk)