23/07/21 - Datganiad ar y Felodrom
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae sefydliadau beicio allweddol yn cefnogi'r cynlluniau ar gyfer y felodrom newydd yn y Bae gan gynnwys British Cycling, Beicio Cymru, Triathlon Cymru, y Maindy Flyers, Ajax Caerdydd a llawer o glybiau beicio eraill ar draws y rhanbarth. Maent wedi ein helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y felodrom fel ei fod yn gweithio i'r rhan fwyaf o bobl a fydd am ei ddefnyddio, o ddechreuwyr i feicwyr proffesiynol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27136.html
22/07/21 - Bridiwr cŵn anghyfreithlon yn cael ei anfon i'r carchar gan Lys Ynadon Caerdydd
Mae Christopher May, 32, o Kewstoke Avenue, Llanrhymni, Caerdydd, wedi cael ei ddedfrydu heddiw i 16 wythnos yn y carchar gan Lys Ynadon Caerdydd am fridio cŵn yn anghyfreithlon, anffurfio anifeiliaid, achosi dioddefaint diangen i anifail a mewnforio cŵn yn anghyfreithlon.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27130.html
22/07/21 - Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa ar gyllid o £50m
Mae Cyngor Caerdydd yn falch iawn o fod yn aelod o gonsortiwm media.cymru sydd wedi ennill cais gwerth £50m i ddatblygu clwstwr fydd yn arwain y byd ar gyfer arloesedd ym maes y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27125.html
21/07/21 - Datganiad ar gasgliadau Gwastraff
"Fel llawer o awdurdodau lleol ledled y DU, mae Cyngor Caerdydd yn wynebu heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen i gynnal gwasanaethau rheng flaen.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27116.html
21/07/21 - £40,000 o gyllid tuag at gytiau newydd i gŵn Caerdydd
Mae cytiau newydd yn yr arfaeth ar gyfer cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd, yn sgil dyfarnu dau grant gwerth £40,000 y gwnaed cais amdanynt mewn partneriaeth â'r elusen leol The Rescue Hotel.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27114.html
21/07/21 - Man Gwyrdd Man Draw i gyn-filwyr yn rhandiroedd Caerdydd
Cyn bo hir, bydd cyn-filwyr yng Nghaerdydd yn gallu manteisio ar gynllun Man Gwyrdd Man Draw, prosiect garddio cymunedol newydd ar gyfer cyn-filwyr, wedi'i leoli ar safle rhandir yn Grangetown.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27110.html
20/07/21 - Datganiad gan y Cyngor ar Barc Bute
Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor "Mae ein meddyliau gyda'r rhai a effeithiwyd gan y digwyddiadau diweddar ym Mharc Bute. Cyn y pandemig roedd mynedfeydd allweddol Parc Bute yn cael eu cloi bob nos adeg machlud haul.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27108.html
20/07/21 - O Fentorai i Fentor! - Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd
Nid yw'r 16 mis diwethaf wedi bod fel unrhyw un arall ond nid yw hynny wedi atal ymrwymiad ac ymroddiad Bayan Ali i ddod o hyd i waith yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27099.html
20/07/21 - Cymorth i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent
Mae cymorth ymarferol ar gael gan y Cyngor i aelwydydd sydd wedi cael trafferth talu eu rhent ac sy'n poeni am golli eu cartref oherwydd ôl-ddyledion rhent cronnol.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27094.html
19/07/21 - £1 miliwn o gyllid ar gyfer prosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd'
Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bron i £1 filiwn o gyllid ar gyfer prosiect a fydd yn gweld coedwig drefol newydd yn cael ei chreu ledled Caerdydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27092.html
19/07/21 - Gorchymyn i breswylydd dalu dros £400 am dipio chwe bag o sbwriel yn anghyfreithlon
Mae Walio Abdullah, 27, o Stryd Pomeroy yn Butetown wedi cael gorchymyn i dalu £433 am dipio chwe bag o wastraff y cartref yn anghyfreithlon y tu allan i fflat ar Hunter Street yn agos i'w gartref.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27087.html
19/07/21 - Dweud eich dweud ar gampws addysgol arloesol yn y Tyllgoed
Mae cynigion ar y gweill i ddarparu adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ar safle a rennir yn y Tyllgoed ac rydym yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd rannu eu barn ar ddyfodol y campws addysgol ar y cyd.
Darllenwch fwy yma: