Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 23 Gorffennaf

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: datganiad ar y felodrom; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; a sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa ar gyllid o £50m.

Ar ôl heddiw, bydd Diweddariad Cyngor Caerdydd yn cael ei gyhoeddi ddwywaith yr wythnos, ar ddydd Mawrth a dydd Gwener. Diolch.

 

Datganiad ar y Felodrom

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae sefydliadau beicio allweddol yn cefnogi'r cynlluniau ar gyfer y felodrom newydd yn y Bae gan gynnwys British Cycling, Beicio Cymru, Triathlon Cymru, y Maindy Flyers, Ajax Caerdydd a llawer o glybiau beicio eraill ar draws y rhanbarth. Maent wedi ein helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y felodrom fel ei fod yn gweithio i'r rhan fwyaf o bobl a fydd am ei ddefnyddio, o ddechreuwyr i feicwyr proffesiynol.

"Edrychwn ymlaen at rannu'r cynlluniau hynny gyda Geraint pan fydd yn dychwelyd o Tokyo. Mae ei lwyddiant wedi ennyn brwdfrydedd cenhedlaeth newydd o feicwyr o Gymry a chredwn y bydd y felodrom newydd yn rhoi'r arena iddynt lle gallant ddysgu mireinio eu sgiliau gan greu atgofion newydd ac enillwyr medalau newydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Beicio Cymru: "Mae Beicio Cymru wedi bod ynghlwm wrth drafodaethau â Chyngor Caerdydd am adleoli'r felodrom o'r Maendy i'r Pentref Chwaraeon ac rydym yn llawn cyffro am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig ar gyfer beicio.

"Yn ogystal ag ymwneud Beicio Cymru drwy gydol y broses, mae British Cycling hefyd wedi darparu mewnbwn technegol. At hynny, rydym wedi cael sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddefnyddio'r cyfleuster wrth drosglwyddo o'r Maendy i'r cyfleuster newydd.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Thîm Prosiect y Cyngor er mwyn helpu i ddatblygu cyfleuster a fydd yn cefnogi twf beicio. Bydd y datblygiad yn cynnwys felodrom pwrpasol gyda chyfleusterau modern gan gynnwys tŷ clwb ac eisteddle i wylwyr ynghyd â chylched ffordd gaeedig 1km a siop feiciau fawr. Credwn y bydd hwn yn gyfleuster gwych yn lle'r un yn y Maendy ar gyfer defnyddwyr presennol ac mae'n gyfle gwych i ddenu beicwyr newydd i'r cyfleusterau newydd cyffrous hyn."

Dwedodd Beverley Lewis, Prif Weithredwr Triathlon Cymru: "Mae Triathlon Cymru wedi'n cyffroi gyda'r cynnydd mewn cyfleoedd a gaiff eu cynnig drwy adleoli'r Felodrom ac rydym yn croesawu gweithio mewn partneriaeth â'r Ddinas a sefydliadau chwaraeon eraill sydd yn galluogi darpariaeth i fod ar gael ar gyfer ystod mor eang â phosib o ddefnyddwyr."

Datganiad Maindy Flyers: "Fel clwb sydd yn tyfu, gyda dros 150 o aelodau sydd o dan 18 oed, rydym yn cefnogi datblygiad y cyfleusterau gwell gan alluogi twf pellach yng ngweithgareddau'r clwb. Bydd trosglwyddiad di-dor i'r felodrom newydd a chyfleuster y ffordd gylch gaeedig yn helpu i fynd â'r hyn sydd gan y Maindy Flyers i'w roi i'r lefel nesaf."

Darllenwch fwy yma:

08/07/21 -  Cynlluniau ar gyfer felodrom ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ar y trywydd iawn

08/07/21 -  Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Gorffennaf - 18 Gorffennaf)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

22 Gorffennaf 2021, 09:00

 

Achosion: 664

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 181.0 (Cymru: 186.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,441

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,755.5

Cyfran bositif: 10.3% (Cymru: 10.6% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 23 Gorffennaf

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  673,249 (Dos 1: 356,046 Dos 2:  317,203)

 

  • 80 a throsodd: 20,848 / 94.5% (Dos 1) 20,430 / 92.6% (Dos 2)
  • 75-79: 15,096 / 96.2% (Dos 1) 14,863 / 94.7% (Dos 2)
  • 70-74: 21,472 / 95.6% (Dos 1) 21,273 / 94.7% (Dos 2)
  • 65-69: 21,948 / 94% (Dos 1) 21,595 / 92.5% (Dos 2)
  • 60-64: 26,006 / 92.1% (Dos 1) 25,544 / 90.5% (Dos 2)
  • 55-59: 29,295 / 89.9% (Dos 1) 28,579 / 87.7% (Dos 2)
  • 50-54: 28,896 / 87.5% (Dos 1) 27,935 / 84.6% (Dos 2)
  • 40-49: 54,656 / 80.7% (Dos 1) 51,555 / 76.1% (Dos 2)
  • 30-39: 58,831 / 73.6% (Dos 1) 50,845 / 63.6% (Dos 2)
  • 18-29: 76,290 / 74.1% (Dos 1) 53,152 / 51.6% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,939 / 98.5% (Dos 1) 1,906 / 96.7% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,331 / 93.8% (Dos 1) 11,050 / 91.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,963 / 89.3% (Dos 1) 43,628 / 84.8% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa ar gyllid o £50m

Mae Cyngor Caerdydd yn falch iawn o fod yn aelod o gonsortiwm media.cymru sydd wedi ennill cais gwerth £50m i ddatblygu clwstwr fydd yn arwain y byd ar gyfer arloesedd ym maes y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod â 24 o sefydliadau o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd ac yn cynnwys partneriaid sy'n gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu ym myd y cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy yn ogystal â £236m yn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2026.

Daw'r cyllid o gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd y Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a cheir £3m o arian cyfatebol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ogystal â £2m gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.

Ers 2006, mae cyfradd twf sector y cyfryngau yn y rhanbarth wedi bod ymhlith yr uchaf yn y DU. Mae wedi denu un o bob wyth o'r holl swyddi newydd ym maes ffilm/teledu yn y DU ac mae Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse ymhlith y llwyddiannau byd-eang sydd wedi'u cynhyrchu yma.

Gan ymateb i'r datblygiadau ym maes cynhyrchu o bell a rhithwir yn ystod pandemig COVID-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y rhanbarth, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, cynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae sector cynhyrchu cyfryngau Caerdydd wedi chwarae rhan ganolog yn nhwf y ddinas yn ddiweddar, a bydd yn hanfodol yn ein twf yn y dyfodol fel un o'n clystyrau mwyaf cystadleuol. Fel partner consortiwm i'r cais hwn gan Strength in Places UKRI, rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith, ymchwil a datblygu mewn technolegau newydd.

"Wrth i'r sector hwn dyfu'n gyflym oherwydd y galw byd-eang am gynnwys a chynhyrchu cyfryngau, mae'n amserol y bydd y consortiwm hwn yn canolbwyntio ar gefnogi anghenion sgiliau a chyfleoedd yn Ninas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn sicrhau twf cynhwysol ymhellach yn ein diwydiant o'r radd flaenaf."

Bydd cyfres o heriau a arweinir gan ddiwydiant i ymchwilio iddynt, gan gynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu'n ddwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg yn gosod sector cyfryngau'r rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer cynnwys, dulliau a fformatau newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27125.html