23/07/21
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae sefydliadau beicio allweddol yn cefnogi'r cynlluniau ar gyfer y felodrom newydd yn y Bae gan gynnwys British Cycling, Beicio Cymru, Triathlon Cymru, y Maindy Flyers, Ajax Caerdydd a llawer o glybiau beicio eraill ar draws y rhanbarth. Maent wedi ein helpu i lunio'r manylebau ar gyfer y felodrom fel ei fod yn gweithio i'r rhan fwyaf o bobl a fydd am ei ddefnyddio, o ddechreuwyr i feicwyr proffesiynol.
"Edrychwn ymlaen at rannu'r cynlluniau hynny gyda Geraint pan fydd yn dychwelyd o Tokyo. Mae ei lwyddiant wedi ennyn brwdfrydedd cenhedlaeth newydd o feicwyr o Gymry a chredwn y bydd y felodrom newydd yn rhoi'r arena iddynt lle gallant ddysgu mireinio eu sgiliau gan greu atgofion newydd ac enillwyr medalau newydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Beicio Cymru: "Mae Beicio Cymru wedi bod ynghlwm wrth drafodaethau â Chyngor Caerdydd am adleoli'r felodrom o'r Maendy i'r Pentref Chwaraeon ac rydym yn llawn cyffro am y cyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig ar gyfer beicio.
"Yn ogystal ag ymwneud Beicio Cymru drwy gydol y broses, mae British Cycling hefyd wedi darparu mewnbwn technegol. At hynny, rydym wedi cael sicrwydd na fydd unrhyw darfu ar ddefnyddio'r cyfleuster wrth drosglwyddo o'r Maendy i'r cyfleuster newydd.
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Thîm Prosiect y Cyngor er mwyn helpu i ddatblygu cyfleuster a fydd yn cefnogi twf beicio. Bydd y datblygiad yn cynnwys felodrom pwrpasol gyda chyfleusterau modern gan gynnwys tŷ clwb ac eisteddle i wylwyr ynghyd â chylched ffordd gaeedig 1km a siop feiciau fawr. Credwn y bydd hwn yn gyfleuster gwych yn lle'r un yn y Maendy ar gyfer defnyddwyr presennol ac mae'n gyfle gwych i ddenu beicwyr newydd i'r cyfleusterau newydd cyffrous hyn."
Dwedodd Beverley Lewis, Prif Weithredwr Triathlon Cymru: "Mae Triathlon Cymru wedi'n cyffroi gyda'r cynnydd mewn cyfleoedd a gaiff eu cynnig drwy adleoli'r Felodrom ac rydym yn croesawu gweithio mewn partneriaeth â'r Ddinas a sefydliadau chwaraeon eraill sydd yn galluogi darpariaeth i fod ar gael ar gyfer ystod mor eang â phosib o ddefnyddwyr."
Datganiad Maindy Flyers: "Fel clwb sydd yn tyfu, gyda dros 150 o aelodau sydd o dan 18 oed, rydym yn cefnogi datblygiad y cyfleusterau gwell gan alluogi twf pellach yng ngweithgareddau'r clwb. Bydd trosglwyddiad di-dor i'r felodrom newydd a chyfleuster y ffordd gylch gaeedig yn helpu i fynd â'r hyn sydd gan y Maindy Flyers i'w roi i'r lefel nesaf."
Darllenwch fwy yma:
08/07/21 - Cynlluniau ar gyfer felodrom ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ar y trywydd iawn
08/07/21 - Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin