Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; man gwyrdd man draw i gyn-filwyr yn rhandiroedd Caerdydd; a £40,000 o gyllid tuag at gytiau newydd i gŵn Caerdydd.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Gorffennaf - 17 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
21 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 711
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 193.8 (Cymru: 189.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,539
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,782.2
Cyfran bositif: 10.9% (Cymru: 10.6% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 22 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 671,263 (Dos 1: 355,916 Dos 2: 315,347)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Man gwyrdd man draw i gyn-filwyr yn rhandiroedd Caerdydd
Cyn bo hir, bydd cyn-filwyr yng Nghaerdydd yn gallu manteisio ar gynllun Man Gwyrdd Man Draw, prosiect garddio cymunedol newydd ar gyfer cyn-filwyr, wedi'i leoli ar safle rhandir yn Grangetown.
Mae Partneriaeth Cyn-filwyr Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddod â thir rhandir nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn Lecwydd yn ôl i ddefnydd, ar gyfer prosiect tyfu hygyrch a fydd yn cefnogi ac yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i integreiddio â'r gymuned rhandiroedd leol drwy dyfu ffrwythau a llysiau.
Mae 36 o dunelli o rwbel eisoes wedi'u clirio o'r safle a dros 2000 o fagiau tywod wedi'u llenwi, yn rhan o'r gwaith i greu gwelyau plannu uchel hygyrch sydd eu hangen i wneud y prosiect yn gwbl hygyrch i gyn-filwyr anabl.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae ein cyn-filwyr yn haeddu pob cefnogaeth a chymorth posibl, a bydd hynny'n sicr ar gael yn y prosiect hwn. Mae rhandiroedd yn cynnig cyfle i dyfu bwyd yn lleol ac hefyd i wella iechyd, lles a sgiliau ein cymunedau, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu helpu i wireddu'r prosiect cymunedol arloesol hwn."
Dywedodd Dave Price o Bartneriaeth Cyn-filwyr Cymru: "Mae'r prosiect yn dod yn ei flaen yn wych nawr, ac unwaith y bydd poly-dwneli i gyd yn eu lle, bydd yn lle pwysig iawn i'n cyn-filwyr. Gall unigedd fod yn broblem fawr, felly bydd mynd allan, cymysgu â'r gymuned rhandiroedd, dysgu sgiliau newydd, boed hynny'n tyfu cnydau neu'n cadw gwenyn, yn gyfle gwych."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27110.html
£40,000 o gyllid tuag at gytiau newydd i gŵn Caerdydd
Mae cytiau newydd yn yr arfaeth ar gyfer cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd, yn sgil dyfarnu dau grant gwerth £40,000 y gwnaed cais amdanynt mewn partneriaeth â'r elusen leol The Rescue Hotel.
Mae grant o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club wedi'i sicrhau, yn ogystal â grant o £30,000 gan Gartref Cŵn a Chathod Battersea yn Llundain.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Gyda'i gilydd, mae'r ddau grant hyn yn hwb enfawr i gynlluniau i adnewyddu'r Cartref Cŵn fel y gallwn ddarparu amgylchedd cyfforddus, di-straen i'r cŵn sydd yn ein gofal. Bydd hyn yn eu galluogi i ffynnu tan i ni allu dod o hyd i gartrefi parhaol iddynt.
"Gyda 64 o gŵn yn cyrraedd y Cartref y mis diwethaf yn unig, mae angen ymdrechion codi arian Sam Warburton a phawb yn y Rescue Hotel gymaint ag erioed, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn."
Darllenwch fwy yma: