Dan
arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae media.cymru yn dod â 24 o sefydliadau o bob
rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd ac yn cynnwys partneriaid sy'n
gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu ym myd y cyfryngau
ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy yn ogystal
â £236m yn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros erbyn 2026.
Daw’r
cyllid o gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd y Ymchwil ac Arloesedd y DU
(UKRI) a cheir £3m o arian cyfatebol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn
ogystal â £2m gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol.
Ers
2006, mae cyfradd twf sector y cyfryngau yn y rhanbarth wedi bod ymhlith yr
uchaf yn y DU. Mae wedi denu un o bob wyth o’r holl swyddi newydd ym maes
ffilm/teledu yn y DU ac mae Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a
Dream Horse ymhlith y llwyddiannau byd-eang sydd wedi’u cynhyrchu yma.
Gan
ymateb i'r datblygiadau ym maes cynhyrchu o bell a rhithwir yn ystod pandemig
COVID-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y rhanbarth, gan
ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, cynyddu gallu busnesau bach i
arloesi a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae sector cynhyrchu cyfryngau Caerdydd wedi chwarae rhan ganolog yn nhwf y ddinas yn ddiweddar, a bydd yn hanfodol yn ein twf yn y dyfodol fel un o'n clystyrau mwyaf cystadleuol. Fel partner consortiwm i'r cais hwn gan Strength in Places UKRI, rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith, ymchwil a datblygu mewn technolegau newydd.
"Wrth i'r sector hwn dyfu'n gyflym oherwydd y galw byd-eang am gynnwys a chynhyrchu cyfryngau, mae'n amserol y bydd y consortiwm hwn yn canolbwyntio ar gefnogi anghenion sgiliau a chyfleoedd yn Ninas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn sicrhau twf cynhwysol ymhellach yn ein diwydiant o'r radd flaenaf."
Bydd
cyfres o heriau a arweinir gan ddiwydiant i ymchwilio iddynt, gan gynnwys
cynaliadwyedd, cynhyrchu’n ddwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth
a thechnoleg yn gosod sector cyfryngau'r rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer
cynnwys, dulliau a fformatau newydd.
Dywedodd
yr Athro Justin Lewis o media.cymru a Chyfarwyddwr Clwstwr yn Ysgol
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Ar ôl effaith
ddinistriol COVID-19, nid yw'r angen am arloesedd digidol yn y sector creadigol
erioed wedi bod mor hanfodol. Felly, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr
arian hwn gan y llywodraeth drwy gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil
ac Arloesedd y DU.
“Mae’n
adeiladu ar lwyddiant cynyddol sector y cyfryngau yng Nghymru. Mae hefyd yn
rhoi cyfle inni adeiladu ar nodau rhaglen Clwstwr, sydd eisoes wedi helpu
llawer o fusnesau a gweithwyr llawrydd yn yr ardal i dyfu a datblygu.
“Nod
rhaglen media.cymru yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Prifddinas Caerdydd yn
ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau. Bydd yn rhoi
cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd sy'n gweithio yn y maes
cyffrous hwn gydweithio ac arloesi, gan adeiladu ar ran annatod o'r economi.
Ein nod yw datblygu sector cyfryngau o'r radd flaenaf sy’n ysbrydoli.”
Dyma
aelodau o Gonsortiwm media.cymru: Alacrity Foundation, BBC, Boom Cymru,
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd,
Cardiff Productions, Prifysgol Caerdydd, Channel 4, Dragon DI, Ffilm Cymru
Wales, Gorilla TV, Great Point Media, Nimble Dragon, Object Matrix, Rescape
Innovation, Rondo Media, S4C, Shwsh, Town Square Spaces, Prifysgol De Cymru,
Unquiet Media, Wales Interactive a Llywodraeth Cymru.