Mae grant o £10,000 gan Ymddiriedolaeth
Elusennol y Kennel Club wedi'i sicrhau, yn ogystal â grant o £30,000 gan
Gartref Cŵn a Chathod Battersea yn Llundain.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, y
Cynghorydd Michael Michael: "Gyda'i gilydd, mae'r ddau grant hyn yn hwb
enfawr i gynlluniau i adnewyddu'r Cartref Cŵn fel y gallwn ddarparu amgylchedd
cyfforddus, di-straen i'r cŵn sydd yn ein gofal. Bydd hyn yn eu galluogi i
ffynnu tan i ni allu dod o hyd i gartrefi parhaol iddynt.
"Gyda 64 o gŵn yn cyrraedd y Cartref y mis
diwethaf yn unig, mae angen ymdrechion codi arian Sam Warburton a phawb yn y
Rescue Hotel gymaint ag erioed, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi
cyfrannu hyd yn hyn."
Dywedodd y Parchedig Bill
King, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club: "Mae helpu
sefydliadau fel Cartref Cŵn Caerdydd i wella eu cyfleusterau ar gyfer y gwaith
pwysig y maen nhw'n ei wneud gyda chŵn coll wrth galon ymdrechion
Ymddiriedolaeth Elusennol y Kennel Club i wneud gwir wahaniaeth i gŵn. Rydym yn
gwybod mor bwysig y mae hi i'r cŵn hyn gael amgylchedd diogel ac mae'n fraint i
ni allu helpu i gefnogi achos mor werthfawr"
Ychwanegodd Margaret Hulme, Rheolwr Grantiau
Battersea: "Rydym yn gobeithio y bydd y grant hwn yn helpu i wneud gwir
wahaniaeth i fywydau anifeiliaid. Yn Battersea rydym am gefnogi canolfannau
achub a llochesi, nid yn unig drwy ddyfarnu cyllid, ond hefyd drwy rannu'r
profiadau a'r wybodaeth rydym wedi'u hennill fel elusen lles anifeiliaid sydd
wedi bod yn achub ac yn ailgartrefu anifeiliaid ers 160 o flynyddoedd."
Ar hyn o bryd mae Cartref Cŵn Caerdydd yn
gofalu am rhwng 750-900 o gŵn bob blwyddyn, cyn eu hail-uno gyda'u perchnogion,
neu ddod o hyd i gartrefi newydd parhaol iddynt. Mae practis milfeddygol newydd
ar y safle hefyd yn gweithredu o'r Cartref Cŵn, gan ddarparu sbaddu fforddiadwy
i gŵn.
I gyfrannu, ewch i:https://www.justgiving.com/campaign/therescuehotel