Back
Man Gwyrdd Man Draw i gyn-filwyr yn rhandiroedd Caerdydd
Cyn bo hir, bydd cyn-filwyr yng Nghaerdydd yn gallu manteisio ar gynllun Man Gwyrdd Man Draw, prosiect garddio cymunedol newydd ar gyfer cyn-filwyr, wedi'i leoli ar safle rhandir yn Grangetown.

Mae Partneriaeth Cyn-filwyr Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i ddod â thir rhandir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn Lecwydd yn ôl i ddefnydd, ar gyfer prosiect tyfu hygyrch a fydd yn cefnogi ac yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i integreiddio â'r gymuned rhandiroedd leol drwy dyfu ffrwythau a llysiau.

Mae 36 o dunelli o rwbel eisoes wedi'u clirio o'r safle a dros 2000 o fagiau tywod wedi'u llenwi, yn rhan o’r gwaith i greu gwelyau plannu uchel hygyrch sydd eu hangen i wneud y prosiect yn gwbl hygyrch i gyn-filwyr anabl.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae ein cyn-filwyr yn haeddu pob cefnogaeth a chymorth posibl, a bydd hynny’n sicr ar gael yn y prosiect hwn.  Mae rhandiroedd yn cynnig cyfle i dyfu bwyd yn lleol ac hefyd i wella iechyd, lles a sgiliau ein cymunedau, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu helpu i wireddu'r prosiect cymunedol arloesol hwn."

Dywedodd Dave Price o Bartneriaeth Cyn-filwyr Cymru: "Mae'r prosiect yn dod yn ei flaen yn wych nawr, ac unwaith y bydd poly-dwneli i gyd yn eu lle, bydd yn lle pwysig iawn i'n cyn-filwyr. Gall unigedd fod yn broblem fawr, felly bydd mynd allan, cymysgu â'r gymuned rhandiroedd, dysgu sgiliau newydd, boed hynny'n tyfu cnydau neu'n cadw gwenyn, yn gyfle gwych.

"Bydd y safle'n hygyrch i'n holl gyn-filwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, ac yn ogystal â thyfu, bydd gardd fyfyrio hefyd, rhywle  i eistedd ac anadlu.  Mae'n eithaf hwyr yn y tymor felly byddwn yn dechrau plannu ambell blanhigyn lluosflwydd ac ambell goeden ffrwythau, ond mae hwn yn brosiect hirdymor sy'n mynd i wella bywydau ein cyn-filwyr a'n teuluoedd sydd wedi gwasanaethu am flynyddoedd i ddod. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb y grant a gawsom gan brosiect llwybrau cadarnhaol y Cyfamod Milwrol yng Nghymru a chymorth a chefnogaeth y Cyngor."

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer dau brosiect arall gan y Cyngor mewn rhandiroedd. Yn dilyn cais llwyddiannus gwerth £20K am gyllid gan Gronfa Etifeddiaeth Travis Perkins, bydd prosiect i ddod â thir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar safleoedd rhandiroedd Fferm Fawr Trelái a Heol y Bont-faen yn ôl i ddefnydd hefyd yn dechrau yn ddiweddarach eleni. Bydd y prosiect yn cyflwyno gwelliannau i seilwaith y safleoedd, tra hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc drwy Gynllun Kickstart Llywodraeth y DU.

Mae prosiect mewn partneriaeth â Gweithredu dros Blant hefyd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Pan fydd ar waith, bydd y prosiect yn galluogi teuluoeddlle mae gan y rhieni anabledd dysgu, neu anghenion dysgu ychwanegol, i ymuno â'r gymuned rhandiroedd, a thrin cynnyrch ar safle rhandiroedd Colchester Avenue.