Mae prosiect 'Coed Caerdydd', sy'n rhan bwysig o ymateb Caerdydd Un Blaned y cyngor i'r argyfwng hinsawdd, wedi sicrhau mwy na £753,000 o gyllid drwy Cymunedau Gwledig - Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Defnyddir yr arian newydd hwn ochr yn ochr â £228,000 o gyllid a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw/The Woodland Trust in Wales, i blannu miloedd o goed ar draws y ddinas.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd prosiect Coed Caerdydd yn arwain at greu coetiroedd a pherllannau newydd ar draws y ddinas, coedwig drefol Caerdydd ei hun yn y bôn, gan ein helpu i greu dinas sy'n amlwg yn wyrddach a'n gwthio yn nes at ein nod o gynyddu gorchudd canopi coed y ddinas i 25%.
"Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da ar lawer o'r prosiectau a nodwyd yn ein hymateb Un Blaned Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd – eleni yn unig mae cyllid wedi'i sicrhau i weithredu cam cyntaf rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel, cerbydau trydan a gyflwynwyd i'n fflyd wastraff a glanhau, cwblhau ein fferm solar 9MW nodedig yn Ffordd Lamby, a gwelliannau i rwydwaith llwybrau beicio'r ddinas – ac mae'r cyhoeddiad sylweddol hwn am gyllid yn hwb pwysig iawn arall i'n cynlluniau.
"Nid dim ond yr hinsawdd a fydd yn elwa o Goed Caerdydd, dros amser, wrth i ni dyfu a phlannu mwy a mwy o stoc coed brodorol o'r blanhigfa goed rydym yn ei sefydlu ar hyn o bryd ar Fferm y Fforest, bydd hefyd yn helpu i greu cynefinoedd newydd i gefnogi natur."
"Mae tua 50 hectar o dir sydd â'r potensial i
ddod yn rhan o brosiect Coed Caerdydd eisoes wedi'i nodi, a'r bwriad yw plannu
coed ar fwy nag 800 hectar o dir dros y degawd nesaf, wrth i ni weithio tuag at
ein nod o Gaerdydd carbon niwtral erbyn 2030."