Back
Dweud eich dweud ar gampws addysgol arloesol yn y Tyllgoed

19/07/21

Mae cynigion ar y gweill i ddarparu adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ar safle a rennir yn y Tyllgoed ac rydym yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd rannu eu barn ar ddyfodol y campws addysgol ar y cyd.

Bydd y broses ymgysylltu yn rhoi cyfle i bobl rannu eu syniadau am y manteision a'r cyfleoedd a gyflwynir gan y campws newydd a chaiff y sylwadau eu hystyried wrth ddatblygu ei weledigaeth a'r modd y bydd yr ysgolion yn gweithio orau dros y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn wrth rieni beth ddylid ei addysgu a sut y dylid ei gyflwyno yn unol â chwricwlwm newydd i Gymru sydd i'w gyflwyno yn 2022/23.

Mae'r cynigion, a gyflawnir dan Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Caerdydd, yn cynnwys:

  • Codi adeiladau ysgol newydd i Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;
  • Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), sydd a'i gartref yn Ysgol Uwchradd Cantonian i 30 lle mewn gofod pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
  • Adleoli Ysgol Arbennig Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti o 140 i 240 lle mewn adeilad newydd;
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti o 70 i 112 lle mewn adeilad newydd.

 

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Campws y Tyllgoed yn brosiect uchelgeisiol ac unigryw a fydd yn dwyn ynghyd dair ysgol wahanol iawn, pob un â'u hunaniaeth eu hunain, ar un campws.

"Y cyntaf o'i fath i Gaerdydd a thu hwnt, bydd y campws yn un o'r sefydliadau addysgol mwyaf datblygedig yn y Deyrnas Gyfunol, gan ddarparu cyfuniad penodol o ddysgu a fydd yn caniatáu i bob ysgol rannu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu a darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned.

Ym mis Rhagfyr 2018, cytunodd y Cabinet ar argymhelliad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i adeiladu campws addysg yn y Tyllgoed a fyddai'n sicrhau adeiladau addysg newydd i dair ysgol yng Nghaerdydd.

Yn rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, nodwyd bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer plant ag anghenion cymhleth,

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Rhoddir ystyriaeth i'r ystod amrywiol o anghenion dysgwyr gyda'r nod eu bod yn teimlo'n ddiogel gydag ymdeimlad clir o hunaniaeth, ac y gallant gydnabod pwysigrwydd perthyn nid yn unig i'w hysgol unigol ond hefyd i'r campws ehangach.

Bydd y sylwadau a ddaw o'r broses ymgysylltu'n helpu'r ysgolion i gynllunio cwricwlwm ac adeiladau ysgol i gefnogi eu disgyblion i ddod yn bobl ifanc uchelgeisiol, galluog a pharod i ddysgu drwy gydol eu hoes wrth hyrwyddo unigolion iach a hyderus a fydd yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.

Mae gweithgarwch ymgysylltu â disgyblion wedi'i gynnal gan cynnwys disgyblion o bob un o'r tair ysgol yn ogystal ag ysgolion cynradd lleol yn nalgylch Ysgol Cantonian. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi'i wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc wedi gallu rhannu eu barn. Bydd y sylwadau hyn yn llywio cynlluniau wrth symud ymlaen, gan atgyfnerthu ein haddewid i roi llais i bobl ifanc ac amlygu strategaeth Caerdydd fel Dinas Sy'n Dda i Blant, lle maelleisiau a hawliau plant yn rhan annatod o'r broses o wneud penderfyniadau.

"Mae ein hysgolion yr 21ainGanrif yn hygyrch at ddefnydd ehangach gan y gymuned ac nawr rydym am wybod beth sy'n bwysig i bobl leol, trigolion a rhanddeiliaid a fydd hefyd yn elwa o'r campws newydd. Bydd hyn yn dylanwadu ar gyfeirio'r adnoddau yn y ffordd orau i gefnogi'rmyfyrwyr a fydd yn mynychu'r ysgolion hyn a'u dysgu yn y dyfodol ond hefyd yn llunio darpariaeth ar gyfer y gymuned leol."

I rannu eich barn ar-lein, ewch i:

Arolwg Campws y Tyllgoed

Mae'r cyfnod ymgysylltu yn cauDdydd Gwener 24 Medi.