Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 19/07/21

 

16/07/21 - Beth Nesaf? Siop un stop newydd ar gyfer addysg, gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli

Mae siop un stop newydd, sy'n dwyn ynghyd wybodaeth a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, wedi'i lansio heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27067.html

 

15/07/21 - Awdurdodau lleol yn dod at ei gilydd i hybu'r nifer o ofalwyr maeth yng Nghymru

Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod ynghyd heddiw i ddod yn 'Maethu Cymru', wrth i dimau ledled y wlad gyfuno eu hymdrechion ac arbenigedd i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn sylweddol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27059.html

 

15/07/21 - Plant ysgol lleol yn croesawu ymgyrch cerflun torwyr cod Caerdydd

Cafodd y cerflunydd Steve Winterburn, sydd wedi'i gomisiynu i ddylunio ac adeiladu cerflun Torwyr Cod Caerdydd ym Mae Caerdydd, ysbrydoliaeth gan bobl ifanc yr ardal ar ddau ymweliad ysgol yn ddiweddar.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27057.html

 

14/07/21 - Gardd 'Annwyl Fam' unigryw i helpu plant sydd wedi colli rhywun annwyl

Mae gardd unigryw 'Annwyl Fam', a gynlluniwyd i helpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwyliaid, a darparu man coffa i rieni sydd wedi colli babi, wedi agor ym Mynwent y Gorllewin, yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27052.html

 

13/07/21 - Mojeid yn ei thaflu allan o'r parc! - Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd

Dyma Mojeid, mae ei angerdd a'i freuddwydion o fod yn hyfforddwr criced wedi dod yn realiti diolch i'w waith caled, ei benderfyniad a chymorth a chefnogaeth Prosiect Datblygu Ieuenctid Butetown (BYDP).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27036.html

 

13/07/21 - Llwyddiant Estyn i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr yn y Rhath wedi'i dileu o fesurau arbennig gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27034.html