Mae gardd 'Annwyl Fam' yn seiliedig ar stori llygoden ifanc o'r enw Dora, sy'n dymuno bod modd iddi ddweud wrth ei mam faint mae hi'n gweld ei heisiau. Mae ffrindiau Dora ym mhentref 'Little Wiggle' yn ei hannog i ysgrifennu llythyr at ei mam a'i phostio mewn blwch post arbennig.
Mae'r ardd, sef y gyntaf ar y raddfa hon yn y Deyrnas Unedig, wedi'i dylunio i roi man myfyrio i blant a, thrwy bostio eu llythyrau eu hunain yn y blwch post tylluan, mae’n rhoi cyfle iddynt fynegi eu teimladau.
Unwaith y bydd plant yn croesi'r bont i Little Wiggle gallant archwilio stori Dora, cwrdd â'i ffrindiau a'i chydbentrefwyr ac, os yw'r cyfan yn mynd yn ormod iddynt, ymlacio ar un o’r meinciau ar thema bisgedi a siocled.
Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael, "Rhaid bod colli rhywun yn un o'r pethau anoddaf allai ddigwydd i blentyn, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu mynegi eu hemosiynau. Mae'r ardd hon, a'r stori y mae'n ei hadrodd, yn rhoi lle addas i blant archwilio'r teimladau hynny ac, yn bwysig, i gymryd seibiant oddi wrthynt hefyd."
"Mae'r ffigurau wedi'u cerfio â llaw sy'n adrodd hanes Dora i'w gweld mewn mynwentydd eraill ond dyma'r tro cyntaf i ardd gyfan gael ei chreu ac mae'n dangos ein hymrwymiad i fod yn ddinas sy’n wirioneddol dda i blant."
Mae gweithgareddau fel mynd ar helfa wenyn, gwneud 'rhwbiadau' neu fwynhau'r lonydd sgipio wedi’u cynnwys fel rhan annatod o’r ardd ac wedi'u dylunio i roi seibiannau i blant, os bydd y teimladau a godir gan yr ardd yn mynd yn ormod iddynt.
Mae'r ardd, sydd wedi'i hariannu'n rhannol gan rodd o £19,000 gan elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newydd-anedig, Sands, hefyd yn darparu lle pwysig i rieni sydd wedi colli babi gofio eu babanod 'heulwen' ac 'enfys'.
Mae helygen goffa, wedi'i gwneud o waith metel wedi'i saernïo â llaw ac wedi'i dylunio i hindreulio dros amser i roi golwg wledig iddi, wedi cael ei rhoi i'r ardd gan yr elusen. Mae pob deilen wedi'i gwneud o wenithfaen solet a gellir ei phrynu er cof a'i harysgrifio gydag enw babi.
Dywedodd Clea Harmer, Prif Weithredwr Sands (elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newydd-anedig): "Rydym wrth ein bodd bod gardd Annwyl Fam yn agor heddiw a'i bod yn cynnwys helygen goffa babanod a fydd yn helpu teuluoedd mewn profedigaeth i dreulio amser yn cofio eu babanod gyda'u brodyr a'u chwiorydd.
"Bydd gan blant lawer o gwestiynau pan fydd
babi'n marw a gall fod yn anodd i deuluoedd sy'n galaru ddod o hyd i'r geiriau
i ateb y rhain neu wybod sut i ddechrau sgyrsiau i alluogi plant i siarad. Bydd
yr ardd yn cynnig lle tawel a myfyriol i rieni, plant a'u teuluoedd dreulio
amser yn meddwl am eu babanod yng nghanol natur. Diolch i bawb sydd wedi
cefnogi creu'r ardd ac i Gyngor Caerdydd am weithio gyda Sands Caerdydd ar y
prosiect pwysig hwn."