Dyma Mojeid, mae ei angerdd a'i freuddwydion o fod yn hyfforddwr criced wedi dod yn realiti diolch i'w waith caled, ei benderfyniad a chymorth a chefnogaeth Prosiect Datblygu Ieuenctid Butetown (BYDP).
Nod prosiect BYDP yw cefnogi pobl ifanc i gyflawni'r cymwysterau perthnasol i helpu i gyflawni eu huchelgeisiau a'u siawns o gael gwaith. Mae wedi bod yn flwyddyn fel dim arall ac mae'r prosiect wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i bobl ifanc.
Gyda chefnogaeth y prosiect, cofrestrodd Mojeid ar gymhwyster hyfforddi lefel 1 yn gynharach eleni ac ers hynny mae wedi llwyddo i gael gwaith fel Swyddog Datblygu Cymunedol amrywiol Criced Cymru. Mae wrth ei fodd!
Dywedodd Mojeid: "Fy nheitl swyddogol yw Swyddog Datblygu Cymunedol amrywiol Criced Cymru, prif ddiben fy rôl yw blaenoriaethu a gweithredu gwaith a fydd yn cyflawni strategaeth cymunedau amrywiolCriced Cymru sef cysylltu cymunedau a gwella lles drwy ysbrydoli pobl i ddarganfod eu hangerdd dros griced."
Dywedodd Martin o Brosiect Datblygu Ieuenctid Butetown:Mae angerdd Mojeidgriced a'i ddull brwdfrydig wedi dod i'r amlwg. Gobeithiwn gynhyrchu partneriaeth â Chriced Cymru sy'n creu llwybr lle gallwn anfon pobl ifanc sydd â diddordeb ac ymroddedig o'r prosiect i Griced Cymru a chyrraedd yr un cymhwyster. Byddai'r cwrs yn darparu profiad gwaith hanfodol fel gwirfoddolwr i helpu i gynyddu'r siawns o gyflogadwyedd ac o bosibl aros gyda Chriced Cymru ac ennill gwaith cyflogedig."
I gael rhagor o wybodaeth amBrosiect Datblygu Ieuenctid Butetown, ewch i:https://www.intoworkcardiff.co.uk/cy/cymorth-mentor-16-24-oed/
Gall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy un o'r gwefannau canlynol:
http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/
#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant