Back
LLWYDDIANT ESTYN I YSGOL GYNRADD GATHOLIG SANT PEDR

 

 


13/7/2021
 
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr yn y Rhath wedi'i dileu o fesurau arbennig gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru.

Daw'r penderfyniad wedi i arolygwyr ganfod bod yr ysgol, gyda chymorth yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De, wedi gwneud digon o gynnydd tuag at fynd i'r afael ag argymhellion, a wnaeth Estyn pan osododd yr ysgol ar fesurau arbennig ym mis Rhagfyr 2018.

Ar ôl ei harolwg diweddar, canfuwyd bod yr ysgol yn amgylchedd diogel a chroesawgar a thrwy gyllid sylweddol gan grwpiau rhieni a'r awdurdod lleol, mae wedi elwa o ddatblygu gwelliannau, gan helpu i wella dysgu a gwella lles disgyblion a staff.

Nododd yr adroddiad fod gweledigaeth glir ar gyfer addysgu ac ymdeimlad cryf o waith tîm a chydweithio gyda staff yn manteisio ar ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgu effeithiol. Mae profiad pennaeth yr ysgol, a benodwyd ym mis Ebrill 2020, wedi hybu arweinyddiaeth, hyder ac ymddiriedaeth effeithiol ymhlith staff.

Gan fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Gareth Rein:  "Mae pawb yn Ysgol Sant Pedr wrth eu bodd gyda chanlyniad ymweliad diweddar Estyn. Mae'r adroddiad yn cydnabod y cynnydd rhagorol a wnaed yn yr ysgol ac mae hyn oherwydd gwaith caled pawb yng nghymuned Sant Pedr.  Ein nod yw datblygu'r plentyn cyfan o ran meddwl, corff ac ysbryd ac rydym wedi parhau i wneud hyn i safon uchel dros y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan COVID-19.

 

 

"Drwy ein cwricwlwm cyffrous, rydym yn canolbwyntio ar les disgyblion ac yn darparu profiadau dysgu diddorol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o'n plant a'n haelodau staff ac rydym yn falch iawn bod hyn wedi'i gydnabod yn adroddiad cadarnhaol Estyn."

Canfu arolygwyr fod gan ddisgyblion lais cynyddol gryf ar draws yr ysgol ‘u bod yn siarad yn frwdfrydig am eu grwpiau Senedd fel y grŵp eco sydd wedi helpu i leihau defnydd yr ysgol o blastig, a'r grŵp Cymraeg sydd wedi helpu i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r ysgol.

 

Mae'r cyfathrebu rhwng staff, llywodraethwyr ac uwch arweinwyr wedi gwella ac mae sefydlu cymdeithas rhieni ac athrawon yn helpu i ddatblygu perthnasoedd
rhwng staff, rhieni a'r gymuned. Gofynnir i rieni yn rheolaidd am eu barn ar sawl agwedd ar fywyd yr ysgol a dangosodd yr arolwg diweddaraf eu bod yn gadarnhaol ynglŷn â sut roedd yr ysgol yn cyfleu ac yn rhannu gwybodaeth.


Yn dilyn arolwg craidd yr ysgol, defnyddiodd yr awdurdod lleol ei bwerau i benodi
llywodraethwyr ychwanegol. Gwnaed gwelliannau i strwythur y corff llywodraethu ac erbyn hyn mae gan Lywodraethwyr gyfrifoldebau sy'n cyd-fynd yn dda â'u setiau sgiliau proffesiynol a phersonol, gan gefnogi cynnydd yr ysgol tuag at argymhellion yr arolwg.

 

Dywedodd Michael Howells, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae hyn yn newyddion gwych. Mae'r adroddiad yn brawf cadarnhaol o waith caled y pennaeth newydd Mr Gareth Rein, a'r holl staff, wrth wella addysgu a dysgu, asesu a chynllunio strategol yn llwyddiannus.

"Mae'r adroddiad yn cydnabod y gwaith tîm effeithiol rhwng llywodraethwyr, aelodau o dîm arwain a staff yr ysgol; gwell cyfathrebu â rhieni a llais cynyddol gryf y disgyblion ym mywyd yr ysgol.

"Mae Ysgol Sant Pedr mewn sefyllfa dda i ddatblygu ei gweledigaeth glir ar gyfer addysgu a dysgu ac mae'n parhau i osod disgwyliadau uchel ar gyfer ei ddisgyblion."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n hynod falch o weld bod arolygwyr Estyn wedi cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr.

"Mae'r awdurdod lleol wedi gweithio'n agos gyda'r ysgol i alluogi cyflwyno safonau gwell. Mae arweinyddiaeth a llywodraethu wedi'u cryfhau ac rydym wedi buddsoddi yn amgylcheddau dysgu'r ysgol.

"Bydd y weledigaeth ar gyfer yr ysgol, gyda chymorth staff, llywodraethwyr, rhieni a chymuned ehangach yr ysgol yn helpu i sicrhau dyfodol sefydlog a chyffrous i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr."