Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 12/07/21

 

09/07/21 - Rhannu adnoddau i adeiladu tai fforddiadwy newydd

Caiff mwy o gartrefi cyngor newydd eu hadeiladu yng Nghaerdydd os caiff cynlluniau i roi hwb i raglen datblygu tai gyffrous y ddinas eu cymeradwyo'r wythnos nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27021.html

 

09/07/21 - Datgelu gweledigaeth i wella llwybrau beicio a cherdded Caerdydd

Mae Caerdydd am gynyddu nifer y bobl sy'n cerdded neu'n beicio i'r gwaith o 31% i 43% erbyn 2030.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27019.html

 

09/07/21 - Datgelu cynlluniau i wneud gwasanaethau bysiau Caerdydd yn fwy deniadol a fforddiadwy

Mae Caerdydd am ddyblu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yn y ddinas fel rhan o'i chynlluniau i leihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27017.html

 

09/07/21 - Cynigion i gynyddu lleoedd mewn ysgolion cynradd yng Ngogledd-orllewin Caerdydd

Gellid datblygu cyfle buddsoddi ac ailddatblygu ar gyfer Ysgol Gynradd Pentyrch fel rhan o gynigion i gynyddu'r ddarpariaeth gynradd yng ngogledd-orllewin y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27015.html

 

09/07/21 - Arena Dan Do yn cynnig cyfleoedd diwylliannol ehangach

Mae mwy o fanylion am gynlluniau cyffrous i ailddatblygu Bae Caerdydd ac i adeiladu'r arena dan do newydd â lle i 15,000 o bobl wedi'u datgelu. Mae mwy o fanylion am gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan penigamp i ymwelwyr yn y DU, a allai ddenu m

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27014.html

 

09/07/21 - Cynigion i gynyddu darpariaeth caerdydd i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol

Bydd cynigion i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 15 Gorffennaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27011.html

 

09/07/21 - Y pandemig yn cynyddu'r galw am wasanaethau gan greu bwlch gwerth sawl miliwn yn y gyllideb

Mae adroddiad newydd wedi datgelu y bydd angen i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £21.3 miliwn i fantoli'r cyfrifon ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ac £80.8 miliwn erbyn 2026 wrth i ganlyniadau'r pandemig achosi cynnydd yn y galw am wasanaethau allweddol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27006.html

 

09/07/21 - Gwasanaeth Cymorth Lles yn cael ei lansio

Lansiwyd yr wythnos hon wasanaeth newydd cyffrous, arloesol i gefnogi oedolion sy'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac i helpu pobl i reoli eu lles personol eu hunain.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27001.html

 

09/07/21 - Entrepreneur 18 oed yn sefydlu busnes ochr yn ochr ag astudio: Straeon ysbrydoledig gan blant a phobl ifanc Caerdydd

Mae Charlie, entrepreneur ifanc o Gaerdydd, wedi llwyddo i sefydlu ei fusnes gwefru cerbydau ei hun ochr yn ochr â'i astudiaethau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanisien.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26998.html

 

08/07/21 - Caerdydd i gyflwyno ei rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgolion i fwy nag erioed

Bydd rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn cael ei chyflwyno i'r nifer uchaf erioed o blant ysgol ledled y ddinas yr haf hwn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26996.html

 

08/07/21 - Cynlluniau ar gyfer felodrom ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ar y trywydd iawn

Mae felodrom newydd sbon yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd ar y trywydd iawn at 2022/23.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26988.html

 

08/07/21 - Cyngor Caerdydd yn ymuno â Sir Fynwy i helpu i adfer economïau lleol

Mae'r tîm caffael penigamp yng Nghyngor Caerdydd wedi ymuno â Chyngor Sir Fynwy (CSF) mewn menter gydweithredol a fydd yn gweld awdurdod Caerdydd yn rheoli gweithrediadau a swyddogaethau caffael CSF am y tair blynedd nesaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26986.html

 

06/07/21 - Ysgol Uwchradd Willows: athro ysbrydoledig wedi'i anrhydeddu mewn dathliad mawreddog o addysgu yn y DU

Mae athro o Ysgol Uwchradd Willows wedi cael ei anrhydeddu gyda Gwobr Arian yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson ar gyfer Athro Newydd Eithriadol y Flwyddyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26970.html